A81315:780
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Deuwn at y trydydd porth yr hwn yw esampl y lliaws.
Theol. E brofir hwn in Exodus, lle y mae 'r Arglwydd in dywedyd in ddisrifoh Na ddilyn liaws i wneuthur drŵg. 1Mewn man arall y dywaid yr Arglwydd: Na ⟨p. 337⟩waewch in òl gweithredoedd gwlàd yr Aipht, yr honey trigasoch ynddi, ac na wnewch in ôl gweithredoedd gwlàd Canaan, yr hon yr ydwyf in eich dwyn chwi iddi, ac na rodiwch in eu deddfau hwynt. Lev. 18.3. In erbyn y gyfraith honey troseddodd plant yr Israel, pan ddywedasant ynghyndynrhwydd eu calon wrth y Prophwyd Jeremi. Am y gair a leferaist ti wrthym ni in enw 'r Arglwydd, ni wrandawn ni arnat. Onid gan wneuthur y gwnawn ni bob peth ar addelo allan o'n genau, megis y gwnaethom, ninny a'n tadau, ein brenhinoedd a'n tywysogion in ninasoedd Judah ac in heolydd Jerusalem. Jer. 44.16. Deliwch sulw pa fodd y maent yma in llwyr wrthod gair yr Arglwydd ac in dilyn esampl y lliaws. Nyni a welwn in y dyddiau hyn wrth resynol adnabyddiaeth, fod y ffrŵd hon in dwyn ganddi i wared filoedd o ddynion; ac i ymddeffyn y bay hwn rhai a ddywedant, gwnewch fell y gwnelo y rhan fwyaf, ac fe fydd lay siarad am danoch: yr hwn sydd ymadrodd sceler. Oblegit os ninny a ddilynwn helynt y rhan fwyaf, ninneu a gawn wobr y rhan fwyaf, yr hon yw colledigaeth dragwyddol. Gochelwn gan hynny ddilyn y llwyr-rwysc. Canys rhwysc y bid sy'n mantoli pob peth ar â ellir ei adrodd ⟨p. 338⟩allan o air Duw, ac in agoryd ford lydan i uffern.
Theol. E brofir hwn yn Exodus, lle y mae 'r Arglwydd yn dywedyd yn ddisrifoh Na ddilyn liaws i wneuthur drŵg.