A81315:788
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Ewch rhagoch at y seithfed porth, yr hwn yw tyb dda o honaw ei hun.
Theol. Porth ehang jawn in ddiau, yw hwn i fined i uffern: Canys yr Scrythur â ddywaid.1 A weli di ŵr doeth in ei olwg ei hún? gwell yw'r gobaith am ffôl, nag am hwnnw. Ac eilchwel Doethach yw'r diog in ei olwg ei hun nâ seith wyr in adrodd rheswm. 2Nyni a welwn fod yr yspryd glân in tystio am y rhai sydd in ymchwyddo gan dybied in rhy-dda o'u doniau ei hunain, y rhai hynny sydd bellaf o'r cwbl oddiwrth deyrnas nesoedd. Canys hwynt hwy ydynt in diystyru ⟨p. 342⟩doethineb Duw iw destruw eu hûn, ac in ddlrmygus ganddynt ddyscu. Hwy â ddywedant, y gwyddant gymmaint ac à fedro'r holl bregethwyr ei ddangos iddynt. Canys pa beth â ddichon yr holl bregeth wŷr ei ddywedyd wrthynt mwy na hyn. Pechaduriald ydym oll, rhaid yw ein hachub drwy Grist. Rhaid i ni wneuthur, fell y mynnem wneuthur i ninnau: nid oes and hyn, os da y gwnewch, da y cewch. Och y druein! y maent in edrych in uchel, ac in tybied in wŷch tros ben o honynt eu hunain,3 heb ystyried eu bod in dlodion, in noethion, in ddeillion ac in druein. Y cyfryw ddynion â rônt eu holl ymddiried in eu synwyr eu hunain, eu dŷsc, eu cyffwystra, eu golud a'u cymmeriad in y bid. Ac oblegid bod pawb in eu mawrygu, ac in eu canmol, am hynny y maent in chwyddo fell ceiliogod Twrci, in castellu eu adenydd, gan eu llusco ar hŷd y llawr, drwy osod pawb eraill ar ddirmig, a diystyrwch, megis pe hwynt hwy fyddei odiaeth-bethau y bid. Heb law hyn pan ganmoler hwynt am eu doniau, a gwnethur in fawr o honynt, peth rhyfedd yw gweled pa ymgymhwyso a wnânt, fell pe baent ar fedr ymgodi ar frŷs, ac ehedeg ir cymmylau. Pob din meddylfalch uchel fryd gwrandawed ar y gwae â dreuthir in eu herbyn gan dragwyddol frenin y gogoniant, gan ddywedyd: