A81315:792
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Yr yspryd glân in rhag-welled mor enbaid yw hwn, ac in gwybod mor hylithr ydym ni i ddilyn drŵg gymdeithas, a rŷdd i ni rybudd difrifol i yingadw rhagddo, megis peth tra-pheryglus. Na dos i lwybr yr annuwolion, 1ac na rodia ar hid ford y drygionus. Gochel hi, na ddòs ar hid-ddi; cilia oddiwrthi hi, a dôs heibio. Y rheswm am hyn a roddir mewn lle arall: lle y dywedir:2 Yr hwn sydd gyfaill i ynfydion a gystuddir. Gan hynny gocheler gyfeillach ddrŵg. Oblegid lawyer drwy hynny a aethant ir crogbren, ac â ddarfu iddynt gyfaddef ar yr yscol, may drŵg gymdeithas ai dygasai ir dihenydd hwnnw: Ac a gynghorasant bawb wrth eu siampl hwy i ymogelyd, a gochel cymdeithas ddrygionus. Ym mhellach yr Scrythur â ddywaid. Y neb a ganlyno oferwyr, 3a gaiff ddigon o dlodi. Ac eilchwel in yr un b•nnod. Y neb a fyddo ⟨p. 345⟩cydymaith i loddestwŷr a gywilyddia ei dad. Gan hynny moeswch i ni ddywedyd gyd a Dafydd: 4Cyfaill ydwyf fi ir rhai oll a'th ofnant ac a gadwant dy orchymynion. Ac or gwrthwyneb dywedwn gyd ag ef: Nid eisteddais gyd a dynion coegion, ac gyd a'r trofaus nid af. Casèais gynnulleidfa y drygionus, a chyd a'r annuwolion nid eisteddaf. Am hynny, Wrth siampl Dafydd, ymogelwn rhag cymdeithas y drygionus, cyfei•lach yw'r argoel hynottaf i adnabod din wrtho. Oblegit megis y mae pob ànghyffelyb in anghyfeilladwy: felly pob cyffelyb a ymgais. Yma gochelwn ein twyllo ein hunain a geiriau offer, ac a thŷb hygoel on nerth ein hunain, fell pe baem cyn gryfed â Christ, ac na ellid ein llithio â neb rhyw fâth ar gymdeithas. Nac ydym ddim: yr ydym ni in hyfforddach i'n denu, nac i ddenu: i'n denu i ddrŵg gan eraill, nac i ddenu eraill i dda. Am hynny y dywed Duw drwy ei Brophwyd. Dychwelant hwy attat ti, 5eithr na ddychwel di attynt hwy. Diau may dŷn rhyfedd yw efe yr hwn nis gwaethyger drwy gymdeithas ddrŵg. Oblegit a ddichon din deimlo pŷg, ac na lyno wrtho? Neu ddwyn marwor in ei fonwes, a bod heb losci? Gressyndod mawr yw gweled beunydd lawyer o'r rhai a'u tybiant eu hunain in gryfion, in ymhalogi,