A81315:956
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe in bechod trosom ni, fell i'n gwnelid ni in gyfiawnder Duw ynddo ef, Christ a wnaed in felldith trosom ni, fell i'n gwaredei ni oddiwrth felldith y gyfraith: Oh gan hynny mor ddedwydd wit ti yr hwn sydd gennit y cyfryw gyfryng-wr, ac Arch-offeiriad. Gollwng dy bwys in gwbl arno ef, ac ar yr aberth peiffaith tragwyddol, a haeddedigol a offrymmodd efe unwaith trosot: Cymhwysa Christ, cymhwysa ei haeddedigaethau, ai addewidion it dy hun, ac ith gydwybod; felly y caiff dy enaid lesâd, a diddanwch oddiwrthynt. Beth pe bay gennit eli gwerth-fawr rhagorol, yr hwn a jachae pa ddolur bynnag y gosodid arno; er hynny os cadwech ef tan glô in eich cîd, heb ei osod un amser wrth y briw, pa lesad a allay i chwi? Yr un ffunyd cyfiawnder, a haeddedigaethau Christ ydynt eli Ysprydol, a jacha bob math ar afiechyd yr enaid, eithr ⟨p. 429⟩oni chymhwyswn ef i ni ein hunain trwy ffydd, ni wna ddim llesad i ni. Rhaid i chwi gan hynny gymhwyso Christ, a holl addewidion yr Efengyl i chwi eich hunain trwy ffydd, a bod in ddiammeu gennych, pa beth bynnag a wnaeth Christ ar y Gross, ei wneuthur o honaw trosoch chwi in nailltuol. Oblegit beth yw y ffydd gyfiawnol and crêd gyflawn gwbl-siccr o gariad enwedigol Duw tuag atom ing-Hrist. Gwybodaeth gyffredin, ac an-siccr o Grist, ac o'i Efengyl ni thyccia ddim i fywyd tragwyddol. Gwnewch eich goreu gan hynny, i gyrrhaedd yr jawn ddefnydd or holl addewidion gorchestol, a rhagorol hyn. Glynwch in din wrth Grist, canys trwyddo ef in unig y mae i ni faddevant pechodau, a bywyd tragwyddol.1 Canys gyd a hwn y mae'r holl Broyhwydi in testiolaethu (medd S. Petr) fod i bawb a gredo ynddo ef gael maddevant am eu pechodau in ei enw ef. Lle y mae'r Apostol in dywedyd i ni, pe bay cwêst mawr wedi ei wneuthur o Brophwydi, i dystiolaethu am y ford, ar moddion i fywyd tragwyddol, hwynt hwy oll o unfryd a ddygent i mewn eu dedryd fod maddevant pechodau, a bywyd tragwyddol ing-Hrist in unig. Gwrandawn y* Fformon in dywedyd, ac un, neu ddau or lleill; canys yngenau dau neu dry o dystion y bid pob gair in safadwy. ⟨p. 430⟩Y Prophwyd Isaiah a ddywed. Efe a archollwyd am ein camweddau ni,