A81315:961
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y peth yma a arwyddoceid gynt in y gyfraith wrth hyn, nid amgen, fod y drugareddfa yr hon oedd arwydd o drugaredd Dduw ing-Hrist, ar Arch yr hon oedd bortreiad or Eglwys, wrth orchymyn Duw wedi eu cydgymhwyso ai gilydd o ran hŷd a llêd.1 Canys megis yr oedd yr Arch in ddau gufydd a hanner o hŷd, ac in gufydd a hanner o lêd, yr un faint oedd y ⟨p. 438⟩drugareddfa: gan arwyddocau wrth hynny y cymhwysid trugaredd Dduw ing-Hrist in unig ir eglwys, ac ir eglwys in unig y perthynei, fell na byddei gymmaint ag un, allan or eglwys in gadwedig. Oblegit y neb nid oes ganddo yr eglwys iddo in fam, ni all efe gael Duw iddo in Dad. In ddiweddaf y mae in rhaid i ni ddal sulw may megis y mae Duw in anfeidrol ei drugaredd, ac in fawr ei dosturi tu ag at bechaduriaid edifarus: felly y mae efe hefyd in ddianwadal wrth ddangos ei drugaredd iw blant. Ac am hynny y mae un or Psalmeu in odlu fell hyn:2 ei drugaredd a beru in dragywydd; ei drugaredd a beru in dragywydd; ei drugaredd a beru in dragywydd; gan bennodi wrth hynny ddianwadalwch a thragwyddoldeb trugaredd Dduw. Ir perwyl ymma yr scrifennir fell hyn. Trugaredd yr Arglwydd yw na'n difethwyd: 3o herwydd na phalla ei dosturiaethau ef. Gwybyddwn gan hynny fod Duw o herwydd ei drugaredd iw blant in ddianwadal, ac in anghyfnewidiol ei naturiaeth. Megis y dywed, myfi wyf yr Arglwydd, 4ac ni'm newidir. Oblegit pe bay Dduw o naturiaeth gyfnewidiol fell yr ydym ni, a darostyngedig i wynniau, yna y byddem ni mewn cyflwr gresynol. Y na rhaid fyddei iddo ein cystuddio ni bob did, a dial arnom bob awr in y did: o herwydd ein bod ni in ei gyffroi ⟨p. 439⟩ef bob did, a phôb awr in y did: Eithr nid yw Duw Nefol in debig i din, in ddarostyngedig i wynniau, ac anwydau: y mae efe in dradianwadal, ac anghyfnewidiol ei naturiaeth. Oblegit er i ni ei gyffroi ef bob did a phechodau o newydd: etto y mae efe mor anhawdd ganddo dial arnom, ai fod y did nesaf in ein gwobrwyo ni a thrugaredd o newydd; ac in torri ymlaen trwy bob angharedigrwydd i ddangos i ni garedigrwydd. A thrwy ein holl ddrygioni i ddangos i ni ddaioni. Ni all ein hôll wendid ni berry iddo ef sorry wrthym, na pheidio a'n caru. Y mae efe in fodlon i'n cymmeryd ni a'n holl feiau: ac i'n hoffi in anwyl, er bod ein beiau in fawr. Nid yw efe in gwneuthur cyfrif o'n gwendid, er ein bod weithiau in wrthnyssig, ac in gyndyn; etto er hynny ei gŷd, nid anllai i'n car ni.