A85479:179
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. O herwydd ein bôd ni y pride hynny mewn mwyaf o berygl, i gael ein gorddiwes a'n gorchfygu gan ein trachwantau pechadurus: Ina yr ydym ni in barottaf i ollwng ein calonnau allan i wibio ar ôl trythyllwch, ac i fyfyrio ar ddrygioni, drwy borthi ein mympwy neu 'n phansi neu 'n tŷb, a rhyngu bôdd i ni 'n hunain mewn meddyliau beilchion, dialeddus, anllad a'r cyffelyh Ac am hynny ⟨p. 42⟩ni ddylem, pan ydym wrthym ein hunain, wilied in ofalus ar ein calonnau, gan eu bôd y pride hynny mewn mwyaf perygl o'r treisiadau ysprydol hyn.
2. O herwydd ein bôd ni y pryd hynny mewn mwyaf o berygl, i gael ein gorddiwes a'n gorchfygu gan ein trachwantau pechadurus: Yna yr ydym ni yn barottaf i ollwng ein calonnau allan i wibio ar ôl trythyllwch, ac i fyfyrio ar ddrygioni, drwy borthi ein mympwy neu 'n phansi neu 'n tŷb, a rhyngu bôdd i ni 'n hunain mewn meddyliau beilchion, dialeddus, anllad a'r cyffelyh Ac am hynny ⟨p. 42⟩ni ddylem, pan ydym wrthym ein hunain, wilied yn ofalus ar ein calonnau, gan eu bôd y pryd hynny mewn mwyaf perygl o'r treisiadau ysprydol hyn.
Ir diben ymma y gorchmynnaf y ddyledswydd ragorol honno o dduwiol fyfyrdod, yr hon a esceulusir in ormod, yr hon hefyd sydd ddauddyblig, self, nail ai in Ddisymmwth ac fell y caffer achlysur iddi, neu ynte in Bennodol ac o ragfwriad.
Ir diben ymma y gorchmynnaf y ddyledswydd ragorol honno o dduwiol fyfyrdod, yr hon a esceulusir yn ormod, yr hon hefyd sydd ddauddyblig, sef, naill ai yn Ddisymmwth ac fel y caffer achlysur iddi, neu ynte yn Bennodol ac o ragfwriad.