A85479:317
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Dôs o'r neilltu i ryw le dirgel ac yno edrych in ôl, ac atgofia pa fôdd y treuliaist di y diwrnod; ystyria pa fodd y cyflawnaist di y dyledswyddau a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, ar a berthynent i amryw rannau 'r diwrnod; Ir diben hyn gosod y cwestiwnau ymma attat dy hun.
1. Dôs o'r neilltu i ryw le dirgel ac yno edrych yn ôl, ac atgofia pa fôdd y treuliaist di y diwrnod; ystyria pa fodd y cyflawnaist di y dyledswyddau a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, ar a berthynent i amryw rannau 'r diwrnod; Ir diben hyn gosod y cwestiwnau ymma attat dy hun.
1. Pa fodd y deffroais i y boreu? A oedd fy meddyliau borevol i ar y Bŷd, ac ar gyflowni fy nhrachwantau? neu ynte ar Dduw, ac ar ray o'i ragoriaethau gogoneddus ef?
1. Pa fodd y deffroais i y boreu? A oedd fy meddyliau boreuol i ar y Bŷd, ac ar gyflowni fy nhrachwantau? neu ynte ar Dduw, ac ar rai o'i ragoriaethau gogoneddus ef?
2. A offrymmais i Dduw cyn gynted ac y cyfodais o'm gwely fy offrwm borevol o weddi a diolchgarwch, in gyntaf in y dirgel, ac ar ôl hynny gydâ 'm Teulu?
2. A offrymmais i Dduw cyn gynted ac y cyfodais o'm gwely fy offrwm boreuol o weddi a diolchgarwch, yn gyntaf yn y dirgel, ac ar ôl hynny gydâ 'm Teulu?