A85479:330
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Megis may y Marchnattwr goreu yw yr hwn sydd beunydd in yr hŵyr in cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion bydol: felly efe yw 'r Cristion goreu ar sydd bob did in yr hwyr in cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion ysprydol, pan ydyw ef ai mined rhagddo ai mined in ôl law in ffyrdd duwioldeb. Histori a fynega i ni am lawyer o'r Cenhedloedd y rhai a arferent bob hwyr o fwrw golwg ar helyntiau 'r diwrnod, megis am Sextius y Philosophydd o Rufain, am yr hwn y tystiolaethir, bôb hŵyr wrth ei fined iw wely, y cwestiwnai ef ei enaid, Pa ddrwg a feddyginiaethasai, pa lygredigaeth a wrthwynebasai; ym mha fesur yr oedd ef ddim gwell nac o'r blaen; Siampl deilwng i Gristianogion iw chanlyn, a chwilyddus yw i ni fôd in fir o gyflawni yr hyn a wnai y Cenhedloedd in hyn.
Megis mai y Marchnattwr goreu yw yr hwn sydd beunydd yn yr hŵyr yn cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion bydol: felly efe yw 'r Cristion goreu ar sydd bob dydd yn yr hwyr yn cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion ysprydol, pa un ydyw ef ai myned rhagddo ai myned yn ôl llaw yn ffyrdd duwioldeb. Histori a fynega i ni am lawer o'r Cenhedloedd y rhai a arferent bob hwyr o fwrw golwg ar helyntiau 'r diwrnod, megis am Sextius y Philosophydd o Rufain, am yr hwn y tystiolaethir, bôb hŵyr wrth ei fyned iw wely, y cwestiwnai ef ei enaid, Pa ddrwg a feddyginiaethasai, pa lygredigaeth a wrthwynebasai; ym mha fesur yr oedd ef ddim gwell nac o'r blaen; Siampl deilwng i Gristianogion iw chanlyn, a chwilyddus yw i ni fôd yn fyrr o gyflawni yr hyn a wnai y Cenhedloedd yn hyn.
II. Adgofia y Gweithredoedd o Ragluniaeth Dduw tu ac attat, a thrysora hwynt i fynu in dy gallon a'th goffadwriaeth, gan roi cais ar wneuthur yr jawn ddefnydd o honynt. Y gwirionedd yw, may argoel o gallon halogedic ac anghrefyddol, yw gollwng damweiniau Rhagluniaeth Duw heibio heb ddim dyladwy ddal sulw arnynt; canys megis ac y llefara 'r Psalmydd, Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, gwnaeth gofio ei ryfeddodau; ac am hynny dy ddyledswydd yw, a'th ddoethineb a fydd, megis y did i ddalsulw ar holl weithredoedd Rhagluniaeth Duw tu ag attat; felly in yr hŵyr iw galw hwynt ith gôf; fell y gallont hwy roddi eu hargraph neu Scrifen in ddwysach arnat ti.