A85479:335
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Wrth fined i'th wely, cymmer bob achlysur o sanctaidd a nefol fyfyrdodau. Megis wrth ddiosg dy ddillad, meddwl pa wêdd na bŷdd chwaith in hîr nes y diosger di o'r cwbl, ac yr elych allan or bŷd mor noeth ac y daethost iddo; yr hyn y mae Job in ei adrodd in rhagorol, Job 1. 21. Noeth, medd efe, y daethum o grôth fy mam, a noeth y dychwelaf yno; nid i grôth ei Fam eilwaith, canys hynny sydd ammhossibl, eithr ir bêdd, crôth y ddaiar, a Mam gyffredinol pawb. Ei feddwl ef gan hynny yw, myfi a âf allan o'r bŷd mor noeth ac y daethum iddo. O ran hyn y gelwir Marwolaeth in Ddiosc, 2 Cor. 5. 4. Am ei bôd in diosc dŷn o'i holl drwsiadau, nid in unic o'i wisc, and hefyd o'i anrhydedd, ei olud, ai gyfoeth.
I. Wrth fyned i'th wely, cymmer bob achlysur o sanctaidd a nefol fyfyrdodau. Megis wrth ddiosg dy ddillad, meddwl pa wêdd na bŷdd chwaith yn hîr nes y diosger di o'r cwbl, ac yr elych allan or bŷd mor noeth ac y daethost iddo; yr hyn y mae Job yn ei adrodd yn rhagorol, Job 1. 21. Noeth, medd efe, y daethum o grôth fy mam, a noeth y dychwelaf yno; nid i grôth ei Fam eilwaith, canys hynny sydd ammhossibl, eithr ir bêdd, crôth y ddaiar, a Mam gyffredinol pawb. Ei feddwl ef gan hynny yw, myfi a âf allan o'r bŷd mor noeth ac y daethum iddo. O ran hyn y gelwir Marwolaeth yn Ddiosc, 2 Cor. 5. 4. Am ei bôd yn diosc dŷn o'i holl drwsiadau, nid yn unic o'i wisc, ond hefyd o'i anrhydedd, ei olud, ai gyfoeth.
Pa fodd y dylei yr ystyrieth o hyn dy gynhyrfu i lafurio am y gwîr olud, a'r wisc ysprydol? fy meddwl yw, Rhadau jachusawl Yspryd Duw, a'r wisc o Gyfiawnder Christ, ac yna nid âi di allan in noeth, and in drwsiadus ac in oludog.
Pa fodd y dylei yr ystyrieth o hyn dy gynhyrfu i lafurio am y gwîr olud, a'r wisc ysprydol? fy meddwl yw, Rhadau iachusawl Yspryd Duw, a'r wisc o Gyfiawnder Crist, ac yna nid âi di allan yn noeth, ond yn drwsiadus ac yn oludog.