A85479:348
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Rheswm arall in profi mai'r did cyntaf o'r wythnos, yr hwn a elwir in gyffredinol Dŷdd yr Arglwydd, yw'r gwir Sabbath Christianogawl in awr tan yr Efengyl, a ellir ei gymmeryd oddiwrth oestadol arfer yr Eglwys a Phobl Dduw er amseroedd yr Apostolion. Megis ac y dangosais i chwi may arfer yr Apostolion oedd gadw y did cyntaf o'r wythnos, yr hyn sydd ddigon o reswm i arddelu'r diwrnod, a nhwythau in cael eu harwain gan Yspryd Christ mewn mod enwedigol: felly y mae'n ymddangos in eglur, may arfer yr holl ddynion sanctaidd er amseroedd yr Apostolion, ydoedd cadw y Did ymma, a hynny tan yr henw o Ddŷdd yr Arglwydd.
2. Rheswm arall yn profi mai'r dydd cyntaf o'r wythnos, yr hwn a elwir yn gyffredinol Dŷdd yr Arglwydd, yw'r gwir Sabbath Christianogawl yn awr tan yr Efengyl, a ellir ei gymmeryd oddiwrth oestadol arfer yr Eglwys a Phobl Dduw er amseroedd yr Apostolion. Megis ac y dangosais i chwi mai arfer yr Apostolion oedd gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, yr hyn sydd ddigon o reswm i arddelu'r diwrnod, a nhwythau yn cael eu harwain gan Yspryd Crist mewn modd enwedigol: felly y mae'n ymddangos yn eglur, mai arfer yr holl ddynion sanctaidd er amseroedd yr Apostolion, ydoedd cadw y Dydd ymma, a hynny tan yr henw o Ddŷdd yr Arglwydd.
Ignatius, yr hwn oedd in byw in amser St. Joan, sy yn dywedyd, Omnis Christi amator Dominicum celebret Diem, reginam & principem dierum omnium, Ignat. Epist. 3. ad Magnes. Bydded i bob un a garo Grist gadw in sanctaidd Ddŷdd yr Arglwydd, yr hwn yw Brenhines y dyddiau. Eusebius in ei history eglwysig lib. 4. cap. 22. sydd in dangos in eglur y môdd y darfu ir Eglwys a Phobl Dduw, tros amryw oesoedd ar ôl amseroedd yr Apostolion gadw y did cyntaf o'r wythnos, megis wedi ei appwyntio gan Grist, ai ordeinio ar ôl hynny gan yr Apostolion. Myfi a allwn dreulio lawyer o bapir in dangos pa fodd y cadwyd y did ymma ym mhob oes, er amseroedd yr Apostolion hid y dyddiau hyn. Weithian defod wastadol yr Eglwys nid yw iw esceuluso. Yr ymadrodd hwnnw o'r eiddo'r Apostol, 1 Cor. 11. 16. Od oes neb a fin fod in ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw, sy in dangos, fod defod yr Eglwys in beth i wneuthur cyfrif o hono.