A85479:361
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Gwybyddwch, fod yr Arglwydd in gofyn nid in unig y dŷn oddiallan, a'r gweithredoedd oddiallan, iw cyffegru iddo ef, onid in enwedigol y dŷn oddifewn, Luc. 10. 27. O herwydd paham y dylem ni, in gymmaint ac y byddo possibl i ni allu, ddidoli ein meddyliau oddiwrth fatterion bydol, fell y gosoder hwy in hollawl ar fyfyrdodau ysprydol a nefol.
2. Gwybyddwch, fod yr Arglwydd yn gofyn nid yn unig y dŷn oddiallan, a'r gweithredoedd oddiallan, iw cyffegru iddo ef, onid yn enwedigol y dŷn oddifewn, Luc. 10. 27. O herwydd paham y dylem ni, yn gymmaint ac y byddo possibl i ni allu, ddidoli ein meddyliau oddiwrth fatterion bydol, fel y gosoder hwy yn hollawl ar fyfyrdodau ysprydol a nefol.
6. Y mae goyphwysfa arall a ddisgwylir gan bob un ar Did yr Arglwydd, a hwnnw yw Gorphwyso oddiwrth bechod; yr hyn a ddylem ni ei wneuthur in gymmaint ac y gallom, bob amser, onid in enwedig ar Did yr Arglwydd, yr hwn a ddylid ei gadw megis gorphwysfa sanctaidd. Ac in ddiau, ni allwn ni wneuthur mwy o ammarch i Dduw, na phan y bom in gwasanaethu 'r Diafol yngweithredoedd y tywyllwch ar Did yr Arglwydd yr hwn a gysegrwyd i anrhydedd a gwasanaeth Duw.
6. Y mae goyphwysfa arall a ddisgwylir gan bob un ar Ddydd yr Arglwydd, a hwnnw yw Gorphwyso oddiwrth bechod; yr hyn a ddylem ni ei wneuthur yn gymmaint ac y gallom, bob amser, onid yn enwedig ar Ddydd yr Arglwydd, yr hwn a ddylid ei gadw megis gorphwysfa sanctaidd. Ac yn ddiau, ni allwn ni wneuthur mwy o ammarch i Dduw, na phan y bom yn gwasanaethu 'r Diafol yngweithredoedd y tywyllwch ar Ddydd yr Arglwydd yr hwn a gysegrwyd i anrhydedd a gwasanaeth Duw.