2. Drwy godly ysprydol a nefol fyfyrdodau allan o honynt. Ar eich deffroad cyntaf, chwi a ddylech gofio pa ddiwrnod ydyw ef, ac wedi bendithio Duw am eich gorphwysdra a'ch cwsg diddanus y noson honno, chwi a ddylech erfyn ganddo gymmorth enwedigol ei râs, i'ch dwyn chwi drwy holl ddyledswyddau'r diwrnod. Pan ydych in codi o'ch gweláu, chwi a ddylech feddwl, megis am adgyfodiad corph Christ allan o'i fed in foreu y did hwnnw, felly hefyd am adgyfodiad eich Eneidiau ymma o farwolaeth pechod, i fuchedd sancteiddrwydd, a'ch Cyrph ar y did olaf allan o fed y ddaiar i fywyd gogoniant in y Nefoedd. Wrth ymwisco am danoch chwi a ddylech feddwl am y Wisg wen laes o Gyfiawnder Christ, ac am ddedwyddwch y rhai sydd iddynt hawl ynddo. Wrth olchi eich dwylo a'ch wynebau, oddiwrth rinwedd ⟨p. 96⟩glân-waith y dwfr, chwi a ddylech gymmeryd achlysur i fyfyrro am rinwedd glanweithrym gwaed Christ, yr hwn in unic sydd in golchi eich eneidiau oddiwrth fudron frychau ac amliwiau y pechod Pan eloch a'r eich byrddau, i fôd in gyfrannogion o ddaionus greaduriaid Duw, eich ymborth corphorol o ran maeth eich cyrph, a ddylai roddi achlysur o fyfyrio ar ymborth ysprydol eich eneidiau, drwy yr hwn y maethir hwynt i fywyd tragywyddol. Y bara ar eich Byrddau a ddylai ddwyn ar gôf i chwi am Jesus Grist, yr hwn yw bara 'r bywyd a ddescynnodd o'r Nefoedd i fywocau eich eneidiau meirwon. Fall hyn y dylech chwi oddiwrth bob dim roddi cais ar dynnu defnydd o fyfyrdod ysprydol a nefol, gan wneuthur eich goreu ar gadw eich calonnau mewn agwedd sancteiddlan ar hid y did. Canys yr hyn a ddywedodd ein Jachawdwr wrth ei Ddiscyblion ynghylch y torthau a'r pyscod, Cesclwch y briwfwyd gweddill, fell na choler dim; Y cyffelyb a ellir ei dybied ei fod ef in ei lefaru ynghylch Dy ld yr Arglwydd, Cesclwch ei holl ddarnau ef, fell na choler un rhan or diwrnod, cymmaint a'r munudau lleiaf, y rhai ydynt werthfawr, megis y llwch manaf o lifion Aur.
2. Drwy godi ysprydol a nefol fyfyrdodau allan o honynt. Ar eich deffroad cyntaf, chwi a ddylech gofio pa ddiwrnod ydyw ef, ac wedi bendithio Duw am eich gorphwysdra a'ch cwsg diddanus y noson honno, chwi a ddylech erfyn ganddo gymmorth enwedigol ei râs, i'ch dwyn chwi drwy holl ddyledswyddau'r diwrnod. Pan ydych yn codi o'ch gweláu, chwi a ddylech feddwl, megis am adgyfodiad corph Crist allan o'i fedd yn foreu y dydd hwnnw, felly hefyd am adgyfodiad eich Eneidiau ymma o farwolaeth pechod, i fuchedd sancteiddrwydd, a'ch Cyrph ar y dydd olaf allan o fedd y ddaiar i fywyd gogoniant yn y Nefoedd. Wrth ymwisco am danoch chwi a ddylech feddwl am y Wisg wen laes o Gyfiawnder Crist, ac am ddedwyddwch y rhai sydd iddynt hawl ynddo. Wrth olchi eich dwylo a'ch wynebau, oddiwrth rinwedd ⟨p. 96⟩glân-waith y dwfr, chwi a ddylech gymmeryd achlysur i fyfyrro am rinwedd glanweithrym gwaed Crist, yr hwn yn unic sydd yn golchi eich eneidiau oddiwrth fudron frychau ac amliwiau y pechod Pan eloch a'r eich byrddau, i fôd yn gyfrannogion o ddaionus greaduriaid Duw, eich ymborth corphorol o ran maeth eich cyrph, a ddylai roddi achlysur o fyfyrio ar ymborth ysprydol eich eneidiau, drwy yr hwn y maethir hwynt i fywyd tragywyddol. Y bara ar eich Byrddau a ddylai ddwyn ar gôf i chwi am Jesu Grist, yr hwn yw bara 'r bywyd a ddescynnodd o'r Nefoedd i fywocau eich eneidiau meirwon. Fal hyn y dylech chwi oddiwrth bob dim roddi cais ar dynnu defnydd o fyfyrdod ysprydol a nefol, gan wneuthur eich goreu ar gadw eich calonnau mewn agwedd sancteiddlan ar hyd y dydd. Canys yr hyn a ddywedodd ein Iachawdwr wrth ei Ddiscyblion ynghylch y torthau a'r pyscod, Cesclwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim; Y cyffelyb a ellir ei dybied ei fod ef yn ei lefaru ynghylch Dy ld yr Arglwydd, Cesclwch ei holl ddarnau ef, fel na choller un rhan or diwrnod, cymmaint a'r munudau lleiaf, y rhai ydynt werthfawr, megis y llwch manaf o lifion Aur.