A85479:574
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
III. Gwnâ dy oreu ar wneuthur, neu in hytrach ar adnewyddu dy heddwch gyd â Duw; canys er na ddylit oedi gwneuthur dy heddwch gydâ Duw tan (neu hid) dy Wely-marwolaeth, etto rhaid i ti y pride hynny ei adnewyddu ef mewn mod enwedigol, megis yr amser olaf ar sydd i ti iw wneuthur ef. Ir diben hwnnw,
III. Gwnâ dy oreu ar wneuthur, neu yn hytrach ar adnewyddu dy heddwch gyd â Duw; canys er na ddylit oedi gwneuthur dy heddwch gydâ Duw tan (neu hyd) dy Wely-marwolaeth, etto rhaid i ti y pryd hynny ei adnewyddu ef mewn modd enwedigol, megis yr amser olaf ar sydd i ti iw wneuthur ef. Ir diben hwnnw,
1. Edrych in ôl i ystod dy fuchedd gynt, ac atgofia ei amryw gyfeiliornadau ef; megis gwagedd dy feddyliau, mor offer a gweigion, mor gnawdol a halogedig a fuont; a hefyd ddiflasrwydd dy eiriau a'th ymadroddion, mor ddi-Dduw ac mor ddi Christ, je mor anfuddiol a fuont gan y ⟨p. 133⟩mwyaf: a hefyd anwiredd dy weithredoedd. Ac wrth dy holy dy hun ynghylch dy weithredoedd, adgofia, pa ddyledswyddau a esceulusaist, a pha Bechodau a wnaethost; ac hefyd ym mha fodd pechadurus y cyflawnaist sanctaidd Ddyledswyddau, y mod y bu dy Wasanaeth mwyaf crefyddol â chymmysc o Bechod ynddo. Cais redeg hefyd tros yr amryw Oedrannau oath einioes, ac ystyria pa Bechodau a bechaist in dy Febyd, pa ray in dy Jevengctid, a pha ray in dy gyflawn oedran.
1. Edrych yn ôl i ystod dy fuchedd gynt, ac atgofia ei amryw gyfeiliornadau ef; megis gwagedd dy feddyliau, mor ofer a gweigion, mor gnawdol a halogedig a fuont; a hefyd ddiflasrwydd dy eiriau a'th ymadroddion, mor ddi-Dduw ac mor ddi Crist, ie mor anfuddiol a fuont gan y ⟨p. 133⟩mwyaf: a hefyd anwiredd dy weithredoedd. Ac wrth dy holi dy hun ynghylch dy weithredoedd, adgofia, pa ddyledswyddau a esceulusaist, a pha Bechodau a wnaethost; ac hefyd ym mha fodd pechadurus y cyflawnaist sanctaidd Ddyledswyddau, y modd y bu dy Wasanaeth mwyaf crefyddol â chymmysc o Bechod ynddo. Cais redeg hefyd tros yr amryw Oedrannau oth einioes, ac ystyria pa Bechodau a bechaist yn dy Febyd, pa rai yn dy Ieuengctid, a pha rai yn dy gyflawn oedran.