A85479:71
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wrth hyn chwi a welwch, fôd gwiliadwriaeth ar ein meddyliau in ran anghenrheidiol o dduwioldeb. A diammeu ydyw, nad yw hwnnw in dduwiol in ei weithredoedd, ar sy heb dduwioldeb in ei feddyliau. Y mae meddyliau in dangos beth yw dŷn, in gystal ac y mae ei eiriau a'i weithredoedd. Ith gynnorthwyo di in erbyn drwg feddyliau, cymmer hyn o gynghorion.
Wrth hyn chwi a welwch, fôd gwiliadwriaeth ar ein meddyliau yn ran anghenrheidiol o dduwioldeb. A diammeu ydyw, nad yw hwnnw yn dduwiol yn ei weithredoedd, ar sy heb dduwioldeb yn ei feddyliau. Y mae meddyliau yn dangos beth yw dŷn, yn gystal ac y mae ei eiriau a'i weithredoedd. Ith gynnorthwyo di yn erbyn drwg feddyliau, cymmer hyn o gynghorion.
I. Na chyd-ddŵg â'r offer a'r drwg feddyliau hynny, fy nail ai in codi oddiwrth dy gallon lygredig dy hun, neu a deflir i mewn iddi gan Satan. Fy meddwl i yw, nâd iddynt dreiglo yma a thraw in dy feddwl, na fyfyria arnynt gydâ digrifwch, canys os felly y gwnei, yr wit ti mewn perygl o gael dy faglu ganddynt.
I. Na chyd-ddŵg â'r ofer a'r drwg feddyliau hynny, fy naill ai yn codi oddiwrth dy galon lygredig dy hun, neu a deflir i mewn iddi gan Satan. Fy meddwl i yw, nâd iddynt dreiglo yma a thraw yn dy feddwl, na fyfyria arnynt gydâ digrifwch, canys os felly y gwnei, yr wyt ti mewn perygl o gael dy faglu ganddynt.
2. Ffieiddia a thafla ymmaith in fuan bôb weddyliau offer a drygionus allan o'th gallon. Megis in dy farn, ni eli di lay nâ'u condemnio hwynt megis brwnt a drygionus, felly in dy serchiadau casáa a ffieiddia hwynt; je ymwrthod â hwynt, a thafla hwy ymmaith megis pethau ffieidd. Ar eu cyfodiad cyntaf in y gallon y bid haws it eu gwrthnebu a'u gorchfygu hwynt: and pan y goresgynnant ac y gwreiddiant, fe fydd lawyer anhawsach it wneuthur felly.