A85479:84
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Tyngu in ddrygionus sydd lw anghyfreithlon, nail o ran y Matter, neu o ran y Môdd. Llw drygionus o ran y Matter neu 'r defnydd yw, pan bo dŷn in rhwymo ei hun drwy lw i wneuthur rhyw beth drygionus, megis yr Iddewon hynny y rhai a'u rhwymasant eu hunain drwy lw ar lâdd Paul, Act. 23. 14. A Fezebel yr hon a gymmerodd lw ar lâdd Elijah, 1 Burn. 19. 2. Y mae llw o'r fâth hyn in gwneuthur Duw in Ganllaw, ac in ymfodlonwr i ddrygioni. Llw drygionus o ran y Môdd, yw, Pan dyngom ni i bethau eraill heb law enw sancteiddlân Duw, megis i neb rhyw greadur, megis Joseph, mine einioes Pharaoh, ac eraill mine Dŷn, mine Jaco, mine y wnaeth Duw, ar cyffelyb. Y fâth lwon a'r rhai'n sy in gwneuthur y creaduriaid megis Duw ei hun, yr hyn sydd gabled goleu. Ac am hynny mae 'n Hachubwr in condemnio pôb tyngu i neb rhyw greadur ar achlysur in y bŷd, drwy gondemnio y cyfryw lwon arferedig ym mhlith yr Iddewon; Ebe ein Jachawdwr, na thwng ddim, hynny yw i greadur in y bŷd, nac ir nêf, nac ir Ddaiar, nac i Jerusalem, nac ith Ben, Mat. 5. 34, 35.
2. Tyngu yn ddrygionus sydd lw anghyfreithlon, naill o ran y Matter, neu o ran y Môdd. Llw drygionus o ran y Matter neu 'r defnydd yw, pan bo dŷn yn rhwymo ei hun drwy lw i wneuthur rhyw beth drygionus, megis yr Iddewon hynny y rhai a'u rhwymasant eu hunain drwy lw ar lâdd Paul, Act. 23. 14. A Fezebel yr hon a gymmerodd lw ar lâdd Elijah, 1 Bren. 19. 2. Y mae llw o'r fâth hyn yn gwneuthur Duw yn Ganllaw, ac yn ymfodlonwr i ddrygioni. Llw drygionus o ran y Môdd, yw, Pan dyngom ni i bethau eraill heb law enw sancteiddlân Duw, megis i neb rhyw greadur, megis Joseph, myn einioes Pharaoh, ac eraill myn Dŷn, myn Jaco, myn y wnaeth Duw, ar cyffelyb. Y fâth lwon a'r rhai'n sy yn gwneuthur y creaduriaid megis Duw ei hun, yr hyn sydd gabledd goleu. Ac am hynny mae 'n Hachubwr yn condemnio pôb tyngu i neb rhyw greadur ar achlysur yn y bŷd, drwy gondemnio y cyfryw lwon arferedig ym mhlith yr Iddewon; Ebe ein Iachawdwr, na thwng ddim, hynny yw i greadur yn y bŷd, nac ir nêf, nac ir Ddaiar, nac i Jerusalem, nac ith Ben, Mat. 5. 34, 35.