A85479:97
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
VI. Bydded eich ymadrodd cyffredinol in eglur, heb lwon, ac ymregfeydd, je heb un mâth ar daeru a thystiolaethu pethau in offer. Mat. 5. 37. Bydded eich ymadrodd chwi je, je, nage, nagê, hynny yw, bydded eich ymadrodd in eglur ac in noeth; Oblegid beth bynnag sydd tros ben hyn, self, beth bynnag sy in mined tu hwnt i siccrháad neu ymwadiad syml plaen, o'r drwg y mae, hynny yw o'r Diafol y mae.
VI. Bydded eich ymadrodd cyffredinol yn eglur, heb lwon, ac ymregfeydd, ie heb un mâth ar daeru a thystiolaethu pethau yn ofer. Mat. 5. 37. Bydded eich ymadrodd chwi ie, ie, nage, nagê, hynny yw, bydded eich ymadrodd yn eglur ac yn noeth; Oblegid beth bynnag sydd tros ben hyn, sef, beth bynnag sy yn myned tu hwnt i siccrháad neu ymwadiad syml plaen, o'r drwg y mae, hynny yw o'r Diafol y mae.
VII. In eich holl ymddiddanion na leferwch ddim and y gwîr. Eph. 4. 25. O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywedwch y gwîr bôb un wrth ei gymmydog. Er bôd celwydd in bechod cyffredinol ym mysc pôb mâth ar bobl, nid plant in unig, and gwŷr a gwragedd, megis in eu hymddiddan cyffredin, felly in enwedig in eu marchnadoedd, in y rhai nid oes dim mwy cyffredinol nâ thyngu a thwyllo; er hynny y mae ef in bechod o'r diffeithaf, megis ac yr ymddengys wrth jawn ystyried y pethau neilltuol hyn.
VII. Yn eich holl ymddiddanion na leferwch ddim ond y gwîr. Eph. 4. 25. O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywedwch y gwîr bôb un wrth ei gymmydog. Er bôd celwydd yn bechod cyffredinol ym mysc pôb mâth ar bobl, nid plant yn unig, ond gwŷr a gwragedd, megis yn eu hymddiddan cyffredin, felly yn enwedig yn eu marchnadoedd, yn y rhai nid oes dim mwy cyffredinol nâ thyngu a thwyllo; er hynny y mae ef yn bechod o'r diffeithaf, megis ac yr ymddengys wrth iawn ystyried y pethau neilltuol hyn.