A95346:78
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys lle y byddo edifeirwch, yno y bid cynneddfau edifeirwch: ac lle ni byddo y cynneddfau, yno ni bid dim gwir edifeirwch. Ac felly lle y dywedodd Christ, oddi eithr i chwi edifarhau, chwi a gollir oll; Yr un fâth ydyw a phe dywedasai, Oddi eithr eich bod in adnabod gwir edifeirwch, oddi eithr i chwi allu profi i'ch cydwybod faddevaint eich pechodau; oddieithr i chwi fod in clywed in eigion eich calonnau newidiad, ac ymadawiad oddiwrth eich ffyrdd anwireddus, a'ch drwg ymddygiad gynt, chwi a gollir in ddiddadl, ac a fyddwch damnedig. Eithr moeswch i ni ychydig etto ymhellach chwilio allan am gynneddfau edifeirwch.
Canys lle y byddo edifeirwch, yno y bydd cynneddfau edifeirwch: ac lle ni byddo y cynneddfau, yno ni bydd dim gwir edifeirwch. Ac felly lle y dywedodd Crist, oddi eithr i chwi edifarhau, chwi a gollir oll; Yr vn fâth ydyw a phe dywedasai, Oddi eithr eich bod yn adnabod gwir edifeirwch, oddi eithr i chwi allu profi i'ch cydwybod faddeuaint eich pechodau; oddieithr i chwi fod yn clywed yn eigion eich calonnau newidiad, ac ymadawiad oddiwrth eich ffyrdd anwireddus, a'ch drwg ymddygiad gynt, chwi a gollir yn ddiddadl, ac a fyddwch damnedig. Eithr moeswch i ni ychydig etto ymhellach chwilio allan am gynneddfau edifeirwch.
Yr Apostol at y Corinthiaid (2 Cor. 7. 11.) sydd in dangos saith o gynneddfau hynod, ac effeithiau (neu weithrediadau) edifeirwch.
Yr Apostol at y Corinthiaid (2 Cor. 7. 11.) sydd yn dangos saith o gynneddfau hynod, ac effeithiau (neu weithrediadau) edifeirwch.
Y cyntaf o'r rheini a eilw efe Gofal (neu Astudrwydd: Canys weal (medd efe) hyn ymma, dristau o honoch chwi in dduwiol