B10304:114
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys mae gida ninny etto mewn lawn grim a nerth, yr hen gyfreithieu gynt, a chym-mhelled ag y galler (yr amser sydd oni‘rowron, pan yw buchedd dynion a phob peth wedi llugru) gossod allan rydym yr addysc Eglwysig in astud ag in ddiragrith. Nid oes gennym-mi deie cyffredin putteinllyd, na llu o ordderchion, a godinebwyr: ⟨p. 73⟩Nid ym-mi chwaith in gossod allan godineb o flaen priodas, nag in ym-arfer a brynti anifeiliaidd; nag in casclu ardreth oddi wrth butteindra, nag in cynnwys godineb ym-mysc cerynt, nag erchyll aflendid, nag in gadel heb gospedigaeth, y cyfriw laddwyr ag ydoedd Aloisius, Casa, a Diazius. Oblegid ni buase raid i ni ymado a chymdeithas y gwyr hyn, pe buase fodlon gennym y petheu gwenwynllyd ymma, y rhai sydd gyda hwynt-hwy mewn clod a chymeriad. Agni buase raid i ni chwaith o ran ymadel a nhwynt-hwy gael cas dynion, a bod hefyd mewn enbydrwydd anescorawl. Nid oes etto alwer Miser pan ydoedd gan y Pâb Pawl, y pedwerydd fagad o ffrierod Awstiniaid, lawyer o Escobion, a rhif mawr o wyr duwiol eraill yngharchar am achos crefydd: ef a‘u rhoes nhwy mewn poenau, ag a fu in ymholi a hwynt, ag a dreiodd bob mod i berry iddynt gyfedde: And in y diwedd pesawl din anllad, pesawl putteiniwr, pesawl godinebwr, pesawl bryntyn a all ef gael in eu plith nhwy y gyd? I'n Duw ni bo‘r diolch, er nad ydym fall y dylem, ag fall yr ym mi'n cymeryd arnom fod, etto pwy ddynion bynnag ydym, os cystedlir ni a hwynt-hwy, di-ammeu may ⟨p. 74⟩hawdd y dihaera‘n buchedd a‘n gwiriondeb ni y petheu y maent hwy'n eu camhaeru arnom. Annog y bobl i bob rhinwedd a dayoni rydym-mi, nid in unig drwy lyfreu, a phregetheu, eithr drwy sampleu, a buchedd. Hefyd, dyscu iddynt rydym mi nad frost gwybodaeth ydyw‘r Efengyl, namyn cyfraith y bywyd; ag na ddyle cristion fall y dywed Tertullianus) ddoedyd in anrhydeddus,1 namyn byw in anrhydeddus; a hefyd nad gwrandawyr, namyn gweithwyr y Gyfraith a gyfiownheir geyr bron Duw. Heblaw'r petheu ymma a haerasant hwy arnom, eu harfer yw doedyd hyn hefyd, a‘i helaethu drwy bob rhyw ddirmyg a dychan amdanom; self, may dynion blin trallodus ydym, in dwyn rhol a llywodraeth oddiar frenhinoedd; gan gyffroi a rhoi arfeu in-nwylaw'r bobl, bwrw i lawr Eistedd-faeu barnedigaeth; torri cyfreithieu; gwneuthyr hafog o bob meddiant; gostwng Brenhinoedd; a chodi'r cyffredin, bwrw pob peth ben-dra-mwnwgl;