B10304:115
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
agar fir o eirieu,1 na fynnwn ni na threfn, na chyfander, mewn Deyrnas. O (Dduw) pesawl gwaith dwy'r geirieu hyn y cynneuhasant hwy lid Twysogion i'n herbyn, megis y galle'r rheini nhwytheu ddiffoddi goleu'r Efengyl, in ei thwf a‘i hegin cyntaf, ⟨p. 75⟩ag y gallent gassau yr Efengyl cyn gwybod beth ydoedd. A hefyd fall y gall‘r Swyddog dybied ganfod onaw ef ei elyn glass, bob gwaith ag y canfydde fo un o honom mi!
ag ar fyr o eirieu,1 na fynnwn ni na threfn, na chyfander, mewn Deyrnas. O (Dduw) pesawl gwaith dwy'r geirieu hyn y cynneuhasant hwy lid Twysogion i'n herbyn, megis y galle'r rheini nhwytheu ddiffoddi goleu'r Efengyl, yn ei thwf a‘i hegin cyntaf, ⟨p. 75⟩ag y gallent gassau yr Efengyl cyn gwybod beth ydoedd. A hefyd fal y galle‘r Swyddog dybied ganfod onaw ef ei elyn glas, bob gwaith ag y canfydde fo vn o honom mi!
- 1Tertull. in Apologer. 1.2. & 3.
E fydde ofid tossed ini gael eyn cyhuddo mor wenwynllyd o ddirfawr drauturiaeth, oni bae wybod onom-mi gael o Grist ei hun, a'r Apostolion, ag anneirif o bobl dda, a christnogion gynt, eu caffau au cenfigenny am yr un affaith, in ei herwydd. Canys er erchi o Grist roddi i Cæsar y peth oedd eiddo Cæsar, er hynny fo'i cyhuddwyd ef o gynnwrf, gan haeru arno fwriadu a chwenychy'r deyrnas. Ag am hynny y llefwyd in groch in ei erbyn ef geyr bron y browdle, gan ddoedyd, O gollyngi di hwn in rhydd nid wit ti garedic i Cæsar. A'r Apostolion er iddynt in wastad, ag in ddyfal, ddyscu i ddynion y mufuddhau i‘r Swyddogion, a bod in rhaid i bob perchen enaid ym-ddarostwng i'r Awdurdodeu uchel, a hynny nid in unig herwydd llid, a dial, eithr er mwyn cydwybod; Etto, nid anllai, yr haerwyd arnynt gyffroi'r bobl, ag annog y gynnylleidfa i wneuthyr gwrthryfel. Fall hyn in bennaf dim, y parodd Haman i frenin Assuerus gassau enw a rhiwogaeth y'r Iddewon, gan ddoedyd,