B10304:122
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr o Dduw tragwyddol! wrth hynny ynte, a gyhudda Pab Rhufain ninny o drauturiaeth? A disc ef ir bobl y mufuddhau a rhyngy bodd iw Pennaethieid? Neu yw ef in gwneuthyr bri in y bid am fraint a mowredd Twysogion?1 Pa ham y mae ynte (y peth ni wnai yr un o hen Escahion Rhufain gynt) in gadel iw wenieith yddion ei alw ef in Arglwydd yr Arglwyddi, fegis mynny ono-fo i'r holl frenhinoedd a‘r Twysogion pwy bynnag ydynt, a ph'le bynnag y maent, fod in weision chwibanogl iddo ef? Pa ham y mae ⟨p. 81⟩ynte in gwneuthyr frost may Brenhin y Brenhinoed ydyw ef, a bod iddo frenhinol lywodraeth ar ei ddeiliaid? Pa ham y mae ef in peri i‘r holl Ymerodreu, ar Twysogion, roi ll••s ffyddlondeb, ag ufndd-dod iddo ef? Pa ham y mae efe in ffrostio fod in hwch ei radd ef no grad yr Ymerodr agos y deucan cymaint: a hynny'n enwedig oblegid i Dduw wneuthyr dau olevad in y Nef;2 ag er mwyn iddo wneuthyr y Nef ar ddayar, nid mewn dau ddechrevad▪ eithr mewn un? Pa ham y darfu iddo ef, a‘i galynwyr, in ol dull yr Anabaptistiaid a‘r Libertiniaid, 3fwrw‘r Jau heibio ag ymryddhau oddi dan pob awdurdod in y hid, fall y gallent hwy foelstotta‘n henrhyddach, ag ynddi-ogelach? Pa ham y mae gantho ef Gennadwyr, self yw hynny, Spiwyr fell jawn, in dirgel-ddisgwyl ofewn llyssoedd, cynghorau, a chyfrinach flafelleu pob brenin? Pa ham y mae ef pan fynno fo in rhoi‘r Twysogion Cristnogaidd in erbyn eu gilydd, ag wrth ei chwanteu ei hun, in aflonyddu'r holl fyd, drwy gynnwrf a chynhenneu? Pa ham y mae ef in escumuno ag in peri cymeryd fall Ethnic, a Phagan, pob Twysog o Gristion a ymwrthodo a‘i lywodraeth ef? A pha ham y mae ef in ado enaid rhydd a phardyneu ⟨p. 82⟩cyn haeled, a chin helaethed, i bwy bynnag a‘r a laddo un oi elynion ef, mewn ford in y bid? ydyw ef in cynnal Ymerodraetheu, a Brenhiniaetheu, neu yw ef unwaith in chwenychy heddwch cyffredin? Ti a ddylid, ddarlleydd duwiol, fad i ni, er dy fod in rybied adrodd o honom-mi y petheu hyn in chwerwach, ag a geirieu duach, nog a wed i wyr Eglwysig eu harfer; Oblegid mae‘r deffyn mor wradwyddus, ag awydd y Pab i ddwyn rhwysc in y bid, mor anrhaith-ddioddef, ag na ellir traethu hyn in llarieiddach,