B10304:158
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr hen Dadau, Origenes, a Chrysostom, sy‘n annog y bobl i ddarllen y Scrythurau glan,1 i briny llyfreu, ag i'mresymmu, gwyr a gwragedd, tadeu a phlant, gartref rhyngthynt eu hunain ynghylch petheu duwiol. Nhwytheu ydynt in bwrw'r Scrythurau in elfennau meirw, a chymaint bight ag allont in gwahardd ag in cadw'r bobl oddiwrthynt.2 Medd y Taden sanctaidd, Cyprianus, Epiphanius, a Hieronimus, am y neb a wnelo adduned ag a roddo ddiofryd priodas, a chwedi hynny a fo'n byw'n aniwair heb allu diffodd tan y chwan•au cnowdol, may gwell iddo briodi, a byw'n ddiwair mewn priodas. Ag y mae'r hen Dad Awstin in barnu'r briodas ⟨p. 123⟩honno in berffaith gymeradwy, ag na ddylid moi dattod. Nhwytheu am y neb a rwymo'i hun unwaith a llwf, ag a diofryd, er ei fod ef in llosci wedi hynny, er ei fod in ymarfer a phuteiniaid, er iddo lugru, a halogi ei fuchedd, in frwnt anrhaith-ddioddef, etto er hynny, ni adawant hwy iddo mor priodi: Neu. o damwain iddo scatfydd briodi, etto nid ydyw hynny briodas m'oni in eu disc nhwy. A gwell, a sancteiddiach meddant, yw cadw gordderch, a phutteyn,3 na byw'n briod in y mod hwnnw. yr hen Dad Awstin oedd in cwyno ag in beio ar y lluosogrwydd o ceremoniæ o'r rhai yr oedd ef in gweled fod gormod llwyth ar feddylieu a chydwybodau dynion y n ei amser ef. Eithr y gwyr hyn fegis na bae Duw'n gwneuthyr ysturiaeth o ddim onid ceremoniæ, a ddarfu iddynt amylhau yr rheini i beth mor anfeidrol, nad oes gan-mwyaf ddim arall amgenach wedi ei adel in eu heglwysi au capelau nhwy.4 Hefyd medd yr hen Dad Awstin nid rhydd i fynach dreulio'i oes in fuscrell ag in segurllyd, a byw ar eraill dan gymryd arno liw a llun sancteiddrwydd. A phwy bynnag a fo byw felly, tebig yw ef i leidr, medd yr hen Dad Apollonius
Yr hen Dadau, Origenes, a Chrisostom, sy‘n annog y bobl i ddarllen y Scrythurau glan,1 i bryny llyfreu, ag i'mresymmu, gwyr a gwragedd, tadeu a phlant, gartref rhyngthynt eu hunain ynghylch petheu duwiol. Nhwytheu ydynt yn bwrw'r Scrythurau yn elfennau meirw, a chymaint byth ag allont yn gwahardd ag yn cadw'r bobl oddiwrthynt.