B10304:171
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ni ddichyn (meddant amdanyn eu hun) eyn heglwys ni, na chyfeiliorni, na chamgymryd: Doedyd hyn (dybyga'i) ymaennhwy, fegis yr oedd arfer y Lacedemoniaid o ddoedyd gynt, na ellid cael un godinebwr o fewn eu holl lywodraeth nhwy; lle'n hyttrach, o ddoedyd y gwir, godinebwyr eeddynt y gyd, heb ddim gwastadfod in eu priodasseu, euthr eu holl wragedd in gyffredin i bawb o honynt. Neu, fall y mae arfer y Canonistiaid, er mwyn eu bolieu,1 o ddoedyd y pride hyn am y Pab, gan ei fod ef in Arglwydd o bob bywyd Eglwysig, ⟨p. 138⟩er iddo werthy Escobaetheu.2 Mynachlogydd, ac offeiriadaetheu, ag nad ymadawo fo a dim in rhâd; etto gan eu fod ef in doedyd may fo piau hyn y gyd, am hynny na ddichyn bod simony yntho fo. pe rhown ag iddo chwenychy simony fwya ag all. Eithr ni fedrwn-ni etto ganfod mor gadarn ag mor gyf-attebol i reswm y gallant hwy ddoedyd hyn, oddieithr ddarfod iddyn-nhwy doeri edenydd y Gwir; fall yr oedd arfer y Rhufeiniaid o wneuthyr gynt a'u duwies Victoria, 3(Gorfodaeth) self, wedi iddi unwaith ddyfod attynt, dory eu hedenydd fegis na all hi sith mwy hedeg oddi wrthynt, a'r un rhyw edenydd hynny. And, beth os dywed y Prophwyd Jeremi wrthynt (fall y mynegasom-mi o'r blaen) may celwyddeu yw‘r rhain? Beth os dywed yr un Prophwyd mewn man arall, may'r gwyr a ddylent fod in warcheidwaid ar y winllan, a ddarfu iddynt sathru ag anrheithio gwinllan yr Arglwydd? Beth os dywed Christ ddarfod i'r gwyr a ddylent in bennaf ofalu am y Deml, wneuthyr Ogof lladron o deml yr Arglwydd? Os gwir na ddichyn Eglwys Rufain gyfeiliorni nag amryfysso, diau ynte, may rhaid fod happussrwydd yr Eglwy• in fwy no'u pwyllin•b nhwy. ⟨p. 139⟩Herwydd o'r cyfryw ydyw eu buchedd a'u hathrawiaeth, au hastudrwydd, na alle'r Eglwys in unig gyfeiliorni, eithr hefyd gael ei difa a chwbl ddarfod andeni erddynt hwy. In wir o dichyn yr Eglwys honno gyfeiliorni, a ddarfu iddi ymadel a Gair Duw, a Gorchmynion Christ, a Threfnadeu'r Apostolion, a'g Arferau'r Brif-Eglwys, a Rheoledigaetheu'r hen Dadeu a'r Cynghorau; yr hon hefyd a ddarfu iddi ymadel ai deddfodeu ei hun, a'r honey ellir dal mo honey, o fewn cyfreithieu'n y bid, na hen na newydd, nag o'r eiddi ei hun, nag o'r eiddo eraill, nag o fewn cyfreitheu Duw, nag o fewn cyfriethieu din: yna, diau, a di ammeu jawn, ydyw, nid in unig allu o Eglwys Rufain gyfeiliorni, eithr darfod iddi gyfeiliorni in wradwyddus ag in frwnt aruthr.