B10304:164
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And mae arna fi chwant ymliw ychydig a'r Pab ei hun, a doedyd hyn wrth ei wyneb ef. Doedwch chwithe ini (sancteiddiol Bab) gan eych bod chwi‘n ffrostio cymaint o benafiaeth, ag in bostio fod pawb in rhwymedig in unig i chwi,1 pwy erioed o'r holl hen Dadeu a'ch galwodd chwi'n Brelat uchaf, neu'n Escob pennaf trwy'r holl fyd, neu'n ben ar yr Eglwys? Pwy onynt erioed a ddoedodd ddarfod rhoddi'r ddau gleddyf i chwi? Pwy o honynt erioed ⟨p. 129⟩a fynegodd may jawn i chwi, a bod awdurdod gennych, i ddyfyn Cymanfa-Gynghorau? Pwy onynt erioed a sonniodd nad yw'r holl fyd onid eych Dioeces chwi?2 Pwy onynt a grybwyllodd ddarfod i'r holl Escobion dderbyn och cyflownder chwi? Pwy onynt a yngenodd ddarfod rhoddi i chwi holl alluowgrwydd in y nef,3 in gystal agar y ddayar? Pwy onynt a draethodd na all na Brenhinoedd, na'r holl wyr Eglwysig, na'r holl fyd y chwaith mo'r barnu arnoch'i? Pwy onynt a ddoedodd fod Brenbinoedd ag Ymerodreu, drwy ewyllys a gorchymyn Christ, in cymryd eu hawdurdod gennych? Pwy onynt, drwy mor ystrowgar gyfrwyddid mathematicaidd, a ddangosodd eych bod chwi ddeng-waith a thrugain saith-waith mhwy no'r Brenhinoedd mwyaf?4 Pwy onynt a fynegodd ddarfod rhoi i chwi mwy o allu ag awdurdodd, nag i'r Patrieirch eraill? Pwy o honynt a sonniodd may chwychwi yw'r Arglwydd Dduw? neu,5 nad oeddych in unig o rywiogaeth din, eithr rhyw sylwedd wedi ei wneuthyr a'i dyfu ynghyd, o Dduw, ag o din? Pwy o honynt a grybwyllodd may chwychwi yw prif ffynnon boll Gyfraith? Pwy o honynt a yngenodd fod ichwi alluowgrwydd ag awdurdod ⟨p. 130⟩ar y Purdan? Pwy o honynt a draethodd y gellwch'i orchymyn Angylion Duw fall y mynnoch eych hunan?6 Pwy dnynt erioed a ddoedodd may chwychwi yw Brenin y Brenhinoedd, ag Arglwydd yr Arglwyddi? Nyni a allwn find etto ymmhellach a chwi'n yr un mod? Pwy erioed o gynnifer holl hen Escobion a Thadau, a odyscodd i chwi na doedyd offeren neulltuol, tree-fae'r bobl in llygeid rythu arnoch, na chwaith codi'r Sacrament uwch eych pen, in yr hyn y mae'ch holl grefydd chwi'rowro'n in sefyll? Neu pwy a ddyscodd i chwi gwttogi Sacramentau Christ, a sommi'r bobl am y nail ran, in-nerbyn ordinhâd a gwir eiriau Christ ei hun? Ag fall y gallom-mi unwaith wneuthyr pen: