Ni ddichyn (meddant amdanyn eu hun) eyn heglwys ni, na chyfeiliorni, na chamgymryd: Doedyd hyn (dybyga'i) ymaennhwy, fegis yr oedd arfer y Lacedemoniaid o ddoedyd gynt, na ellid cael un godinebwr o fewn eu holl lywodraeth nhwy; lle'n hyttrach, o ddoedyd y gwir, godinebwyr eeddynt y gyd, heb ddim gwastadfod in eu priodasseu, euthr eu holl wragedd in gyffredin i bawb o honynt. Neu, fall y mae arfer y Canonistiaid, er mwyn eu bolieu,1 o ddoedyd y pride hyn am y Pab, gan ei fod ef in Arglwydd o bob bywyd Eglwysig, ⟨p. 138⟩er iddo werthy Escobaetheu.2 Mynachlogydd, ac offeiriadaetheu, ag nad ymadawo fo a dim in rhâd; etto gan eu fod ef in doedyd may fo piau hyn y gyd, am hynny na ddichyn bod simony yntho fo. pe rhown ag iddo chwenychy simony fwya ag all. Eithr ni fedrwn-ni etto ganfod mor gadarn ag mor gyf-attebol i reswm y gallant hwy ddoedyd hyn, oddieithr ddarfod iddyn-nhwy doeri edenydd y Gwir; fall yr oedd arfer y Rhufeiniaid o wneuthyr gynt a'u duwies Victoria, 3(Gorfodaeth) self, wedi iddi unwaith ddyfod attynt, dory eu hedenydd fegis na all hi sith mwy hedeg oddi wrthynt, a'r un rhyw edenydd hynny. And, beth os dywed y Prophwyd Jeremi wrthynt (fall y mynegasom-mi o'r blaen) may celwyddeu yw‘r rhain? Beth os dywed yr un Prophwyd mewn man arall, may'r gwyr a ddylent fod in warcheidwaid ar y winllan, a ddarfu iddynt sathru ag anrheithio gwinllan yr Arglwydd? Beth os dywed Christ ddarfod i'r gwyr a ddylent in bennaf ofalu am y Deml, wneuthyr Ogof lladron o deml yr Arglwydd? Os gwir na ddichyn Eglwys Rufain gyfeiliorni nag amryfysso, diau ynte, may rhaid fod happussrwydd yr Eglwy• in fwy no'u pwyllin•b nhwy. ⟨p. 139⟩Herwydd o'r cyfryw ydyw eu buchedd a'u hathrawiaeth, au hastudrwydd, na alle'r Eglwys in unig gyfeiliorni, eithr hefyd gael ei difa a chwbl ddarfod andeni erddynt hwy. In wir o dichyn yr Eglwys honno gyfeiliorni, a ddarfu iddi ymadel a Gair Duw, a Gorchmynion Christ, a Threfnadeu'r Apostolion, a'g Arferau'r Brif-Eglwys, a Rheoledigaetheu'r hen Dadeu a'r Cynghorau; yr hon hefyd a ddarfu iddi ymadel ai deddfodeu ei hun, a'r honey ellir dal mo honey, o fewn cyfreithieu'n y bid, na hen na newydd, nag o'r eiddi ei hun, nag o'r eiddo eraill, nag o fewn cyfreitheu Duw, nag o fewn cyfriethieu din: yna, diau, a di ammeu jawn, ydyw, nid in unig allu o Eglwys Rufain gyfeiliorni, eithr darfod iddi gyfeiliorni in wradwyddus ag in frwnt aruthr.
Ni ddichyn (meddant amdanyn eu hun) eyn heglwys ni, na chyfeiliorni, na chamgymryd: Doedyd hyn (dybyga'i) ymaennhwy, fegis yr oedd arfer y Lacedemoniaid o ddoedyd gynt, na ellid cael vn godinebwr o fewn eu holl lywodraeth nhwy; lle'n hyttrach, o ddoedyd y gwir, godinebwyr eeddynt y gyd, heb ddim gwastadfod yn eu priodasseu, euthr eu holl wragedd yn gyffredin i bawb o honynt. Neu, fal y mae arfer y Canonistiaid, er mwyn eu bolieu,1 o ddoedyd y pryd hyn am y Pab, gan ei fod ef yn Arglwydd o bob bywyd Eglwysig, ⟨p. 138⟩er iddo werthy Escobaetheu.2 Mynachlogydd, ac offeiriadaetheu, ag nad ymadawo fo a dim yn rhâd; etto gan eu fod ef yn doedyd may fo piau hyn y gyd, am hynny na ddichyn bod simmoni yntho fo. pe rhown ag iddo chwenychy simmoni fwya ag alle. Eithr ni fedrwn-ni etto ganfod mor gadarn ag mor gyf-attebol i reswm y gallant hwy ddoedyd hyn, oddieithr ddarfod iddyn-nhwy doeri edenydd y Gwir; fal yr oedd arfer y Rhufeiniaid o wneuthyr gynt a'u duwies Victoria, 3(Gorfodaeth) sef, wedi iddi unwaith ddyfod attynt, dorri eu hedenydd fegis na alle hi fyth mwy hedeg oddi wrthynt, a'r vn rhyw edenydd hynny. Ond, beth os dywed y Prophwyd Ieremi wrthynt (fal y mynegasom-mi o'r blaen) may celwyddeu yw‘r rhain? Beth os dywed yr vn Prophwyd mewn man arall, may'r gwyr a ddylent fod yn warcheidwaid ar y winllan, a ddarfu iddynt sathru ag anrheithio gwinllan yr Arglwydd? Beth os dywed Crist ddarfod i'r gwyr a ddylent yn bennaf ofalu am y Deml, wneuthyr Ogof lladron o deml yr Arglwydd? Os gwir na ddichyn Eglwys Rufain gyfeiliorni nag amryfysso, diau ynte, may rhaid fod happussrwydd yr Eglwy• yn fwy no'u pwyllin•b nhwy. ⟨p. 139⟩Herwydd o'r cyfryw ydyw eu buchedd a'u hathrawiaeth, au hastudrwydd, na alle'r Eglwys yn vnig gyfeiliorni, eithr hefyd gael ei difa a chwbl ddarfod ādeni erddynt hwy. Yn wir o dichyn yr Eglwys honno gyfeiliorni, a ddarfu iddi ymadel a Gair Duw, a Gorchmynion Crist, a Threfnadeu'r Apostolion, a'g Arferau'r Brif-Eglwys, a Rheoledigaetheu'r hen Dadeu a'r Cynghorau; yr hon hefyd a ddarfu iddi ymadel ai deddfodeu ei hun, a'r hon ni ellir dal mo honi, o fewn cyfreithieu'n y byd, na hen na newydd, nag o'r eiddi ei hun, nag o'r eiddo eraill, nag o fewn cyfreitheu Duw, nag o fewn cyfriethieu dyn: yna, diau, a di ammeu iawn, ydyw, nid yn vnig allu o Eglwys Rufain gyfeiliorni, eithr darfod iddi gyfeiliorni yn wradwyddus ag yn frwnt aruthr.
- 1Summa Angelica Dist. Papa.
- 2Theodericus de Schismate
- 3Plutarchus.