B10304:172
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Amdanom mi y doedant, chwi a fuoch gynt on crefydd a'n cymdeithas ni, and yr owr'on e ddarfu i chwl ymadel, ag ymwahanu a ni. Gwir ydyw, ddarfod i ni ymadel a nhwy, ag mae genym ddiolch i'r goruchaf Dduw, a llawen jawn ydym, ar eyn rhan eyn hun, wneuthyr onom-mi hynny. And etto ni ddarfu r ni mor ymadel ar brif Eglwys, nag a'r Apostolion, nag a Christ. E'n dygpwyd ni finny gyda'r gwyr hyn mewn ⟨p. 140⟩tywyllwch, ag mewn gwall gwybodaeth am Dduw, fall y cafodd Moeses ei ddysca'i ddwyn i finny in athrawiaeth ag ymmynwes yr Aiphtiaid. Ni a fuom (medd Tertullian) o'ch cymdeithas chwi; rwy‘n cyfaddef ag nid oes dim rhyfeddod, (medd ef:) Herwydd nid yw dynion in Gristnogion wrth enedigaeth, eithr wrth wneuthuriad. And, pam y dolwg, y darfu iddynnhwy sydd ddinâswyr Rhufain, symyd, a dyfod i lawr i drigo i'r Gwastad a elwir* Maes Mars, o ddiar y saith bryn ar y rhai yr oedd Rhufain in sefyll gynt? Nid hwyrach y doedan-nhwy, may am ballu a sychu in y brynniau hynny y cwndidau dwr, heb yr rhai ni ellent hwy mor byw yno'n jawn. Rhon nhwytheu (ar nawdd Dduw) i ni, wrth geisio dwr y bywyd tragwyddol, yr un faith gennad ag a fynnan-nhwy gymryd eu hunain wrth geisio dwr y pydew. Oblegid, in wir, e ballase'r dwr in eu plith nhwy; Yr henuriaid (medd Jeremi a ddanfonasont eu rhai bychain i'r dyfroedd, nhwytheu druein in meirw o syched, gan na fedrent gael dwr, a'mchwelasant a'u llestri‘n wâg. Yr anghenus a‘r rhai tlodion (hebr Isaiah) a chwiliasant o amgylch am ddwr, and ni fedren nhwy gael dim in unlle: yr oedd eu tafodeu nhwy wedi gwywo ⟨p. 141⟩o dra syched. Felly'r gwyr hyn a dorrasant in gandryll yr holl bibellau a'r cwndidau dwr: nhwy a argavasant yr holl ffrydiau, ag a lenwasant ffynnon y dwr byw â thom ag â brynti. A megis in Rhufain y gwnaeth Caligula gynt am gau a chloi'r holl yscyborieu yd, gan beri'n y mod hwnnw newyn a drudaniaeth cyffredinol ymhlith y bobl, felly'r gwyr hyn nhwytheu, wrth gau a phridd-lenwi holl ffynnoneu gair Duw, a wnaethant ar y bobl syched gresynol. Nhwy a barasant newyn a syched ar ddynion (fall y doedodd y Prophwyd Amos,) nid newyn bara, na syched dwr, and newyn, a syched, gwrando gair Duw. Y truein gwerin a aethant amgylch ogylch, dan geisio rhyw wreichionen o oleuni duwiol, i lawenhau eu cydwybodau, eithr y goleuni hwnnw oedd wedi diffodd cyn llwyred na fedren-nhwy gael un gronyn. Llymma'r cyflwr, llymma'r drefn ressynol, oedd ar Eglwys Dduw.