B10304:201
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pam adolwg, a ddichyn Annas a Chaiphas ddealld rhol a llywodraeth, ag ni ddichyn brenhin Dafydd, a brenhin Hezekiah? Ai rhydd i Gardinal a fo rhyfelwr ag in lawn chwant gwaed, eistedd mewn Cymanfa-Gyngor, ag nid ydyw rid i Ymerodr neu i Frenin Cristnogawl? Diau nad ydym-mi'n rhoi mwy rhydid ag awdurdod i'n Pennaethiaid nog a wyddom fod wedi caniattau, iddynt in y Scruthur lan, a hefyd wedi ei gadarnhau iddynt drwy sampleu ag arfer y llywodraethau cyffredin goref. Herwydd heblaw rhoddi o Dduw bob un o ddwy lech y Gorchmynnion dan ddwylaw bob Twysog ffyddlon, megis y gall efo ddealld fod in perthyny iw swydd ef, nid in unig achossion llyg, eithr hefyd petheu cyssegr eglwysig: heblaw hefyd fod Duw'n fynych drwy ei Brophwydi 'n erchi'r Brenin, in anad dim, dory y llwynau, bwrw i lawr a dryllio delwau ag allorau‘r Eulunod; a scrifenny llyfr y ddeddf iddo'i hun: a heblaw doedyd o'r Prophwyd Isaiah may rhaid ir Brenhin fod in ymddiffynnwr ag in dad-maeth i'r Eglwys: Heblaw hyn y gyd (medda'i) ni a welwn wrth ddarllen ystoriaeu a sampleu'r amseroedd goref, ddarfod i bob Twysog duwiol ⟨p. 168⟩erioed wneuthyr cyfri fod gwenidogaeth yr Eglwy•i'n berthynasol iw swydd ef. Moeses yr hwn ydoedd Cennadur llyg a thwyswr y bobl,1 a dderbynniodd gen Dduw, ag a ddododd i‘r bobl, yr holl drefn am Grefydd ag Abertheu: ag a rod gerydd hagr-dost i'r Escob Aaron am wneuthyr y lo euraid ag am ddioddef llugru crefydd Dduw.2 Joshua hefyd, er nad ydoedd ef ddim amgen no Phennaeth llyg, etto hwyn gynta'g y darfuase i Dduw ei ddewis ef a'i ossod in lywodraethwr ar y bobl, ef a gafodd orchmynnion in enwedig ynghylch crefydd a gwasanaeth Dduw. Ar ol darfod i frenhin Saul annuwiol wneuthyr llwyr ddifrod ar yr holl Grefydd,3 brenin Dafydd a ddygodd Arch Dduw adref drach-gefn; self yw hynny, ef a ail gododd i finny fraint crefydd; a heblaw fod o honaw ei hun in rhoi cyngor a chanhorthwy i hynny o waith, ef a wnaeth hefyd ag a ordeiniodd Psalmeu ag Odleu iw canu: ef a ossododd y teuluoedd mewn trefn, efo'i hun a luniodd yr holl wchder, ag ydoedd (in ei herwydd) in ben olygwr ar yr offeiriaid.4