B10304:202
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Brenin Solomon a adailadodd i'r Arglwydd y deml a amcanase ei Dad Dafydd ei hadial: a chwedi gorphen y deml, ef a ⟨p. 169⟩draethodd ymadrodd odidawg geyr bron y bobl ynghylch gwir grefydd a gwasanaeth Dduw; wedi hynny ef a symmydodd ymaeth yr offeiriad Abiathar, 1ag a ossododd Sadoc in ei le ef. Ar ol hyn, wedi darfod halogi'r deml in warthus ag in wradwyddus, drwy ddiffeithwch ag esceulustra'r offeiriaid; yna, Brenin Hezekiah a orchmynnodd ei glanhau eilwaith,2 a dwyn allan o honey yr holl sothach a'r brynti: gan berry i'r offeiriaid olevo canhwyllau, llosci arogl-dearth, a thrin y cyssegr wasanaeth in ol yr hen ddeddfod: Hefyd, e barodd y Brenin hwnnw dynny i lawr a malurio'r Sarph bres i'r hon yr oedd y bobl in gwneuthur addoliaeth annuwiol.3 Brenin Jehoshaphat a dynnodd i lawr ag a dorrodd yr uchelfeudd, a'r llwynau;4 drwy'r hyn y canfu ef rwystro gwasanaeth Duw, a dal y bobl drach eu cefneu mewn camgrediniaeth neullivol, oddi wrth y deml gyffredin yr hon oedd ing Haer-Selem: i'r hwn le yr oedd in ddyledus arnynt dramwyo bob blwyddyn o bob man o'r deyrnas.5 Brenin Josiah drwy ddyfal astudrwydd a ddygoddd a‘r gof i‘r offeiriaid a‘r Escobiou eu dyledus swydd. Brenin Johas a wrthladdodd drythyllwch a goruch-falchder yr offeiriaid bwyreig.6 Brenhin Jehu a ddihenyddiodd ⟨p. 170⟩y Prophwydi-annuwiol. Ag o wneuthyr pen a'r ddwyn sampleu o'r Scrythurau glan, ninny a'styriwn pa wed er pan anwyd Christ y cafodd yr Eglwys ei llywodraethu in amser yr Efengyl. Yr Ymerodreu Cristnogawl a ddyfynnent Gymanfa-Gynghorau o'r Escobion gynt. Constantinus a ddyfynnodd Gymanfa-Gyngor in Niçea; Theodosius y cyntaf, a alwodd y Cymanfa-Gyngor ing-Constantinopl; Thodotius yr ail, a ddyfynnodd y Gymanfa-Gyngor in Ephesus; Martianus a alwodd y Gymanfa-Gyngor yngh Calcedonia. A phan adroddod Ruffinus yr heretic Senedd neu Gymanfa-Gyngor, yr hon dygase, efe ydoedd in pwyso ar ei du ef, yna y doede Hieronimus iw wrthwynebu ef fall hyn; Mynega (heb'r ef) pa‘r Ymerodr a orchmynnodd galw neu ddyfyn y Gymanfa-Gyngor honno? Yr un Hieronimus ym-Marwnad Paula, sy'n crybwyll am lythyreu‘r Ymerodreu yr rhai oeddynt in gorchymyn dyfyn Escobion Greçia ag Italia i Gymanfa-Gyngor in Rhufain. In wastad, yngod pum can mylynedd, yr Ymerodr in unig oedd in peri galw a dyfyn Cymanfaeu Eglwysig ag in hynodi Cynghoreu Escobion.