B10304:215
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Felly hefyd pan wrthododd P•lladius a Secundus y Cyngor in Aquila, er mwyn nad oedd ef Gyngor cyffredin; e attebodd Ambrosius Escob Milan na ddyle neb dybied may peth n•wydd dieithr oedd glywed fod Escobion y Gorllewin in ⟨p. 184⟩dyfyn Sen•ddeu, a chynlleidfaeu, in egwledydd eu hun. Herwydd peth cynefinol fuase hynny ymlaen-law gen Escobion y Gorllewin, a pheth a arferasse Escobion Graeçia ei wneuthyr in fynych jawn. Felly, y mynnodd yr Ymcrodr Carolus Magnus gynnal Cyngor neu Senedd yngwlad Germania, i droi delwau ymmaeth in nerbyn yr ail Gymanfa-Gyngor in Niçea. Ag in wir, in eyn plith ni'n hunain, nid newydd na dieithr mo hyn o belynt. Herwydd e fu gennym-mi ymma'n Ll•egr Senedd-Gymanfaeu cyn hyn; ag ni a lywodraethasom eyn heglwysi drwy nerch cyfreithieu cartrefig. Pa raid y chwaneg? diau, am y Cymanfa-Gynghorrau mwyaf a lluosoccaf a'r a fu erioed, o'r rhai y mae'r gwyr hyn in gwneuthyr cymaint ffro•• a rhodres; o chystedlir nhwy a holl Eglwysi'r holl fyd, sy'n cydnabod ag in cyfaddef henw Christ, beth a ellir tybied amdanynt amgenach no'n bod nhwy'n Gyngorau Escobion neulltuol ag in Seneddau gwledydd ar eu penneu eu hun? Oblegid pe rhoem ag ymgynnull yngbyd o Italia, Ffrainc, Hispaen, Lloygr, Germania, Denmark, a Scotland; etto er hynny, o bid diffic o Asia, Graçia Armenia, Perria, Media Mesopotamia, yr Aipht, Ethiopia, India, ⟨p. 185⟩a Mauritania (in yr holl amryw wledydd hyn, y mae lawyer o ddynion Cristnogion, a lawyer o Escobion hefyd,) pa fodd y dichyn neb a fo'n ei gof a‘i synwyr dybied may Cymanfa-Gyngor penrheithiawl drwy'r holl fyd yw r Cyngor hwnnw? Neu, lle y mae 'o eisieu cynnifer darn o'r bid, pa fodd y gallan-nhwy ddoedyd, in lle gwir, fod cyd-synniad yr holl fyd genthynt? Neu pa ryw faith a'r Gyngor, dybygwch chwi, oedd y• hwn a gynhaliwyd ddiwaethaf in-rhef Tridentu•? neu pa fodd y gelid galw hwnnw in benrheithiol drwy'r holl fyd pan nid ymgynnullasse iddo o holl deyrnassoedd a chenedloedd Cred, onid deugain o Escobion in unig, a rhai o'r rheini mor gymmen, ag y buasse gymhessur eu danfon-nhwy adref drachgefn i ddyscu Gramadec, a hefyd mor ddyscedig na ddarllennassent hwy erioed mor Scrythurau glan?