B10304:206
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gan fod hyn ynte, gan allu o'r Rhagbennaethiaid a'r gwyr mwy a‘u gwaedogoeth gyd-scrifenny'n y Gymanfa-Gyngor, oni all Ymerodreu, a Brenhinoedd, wneuthyr y cyfryw? In wir ni buase raid i ni wneuthyr cybyd ymadrodd mewn achos moreglur, oni bae fod i ni a wnelom a'r faith wyr ydynt arfer (er mwyn gwrhydri) o wadu pob peth er eglured fyddo; ⟨p. 174⟩je yr petheu y maent in eu canfod geyr eu bronneu, ag yneu gweled a‘u llygeid eu hunain. Yr Ymerodr Justinianus a wnaeth gyfraith i ddiwygu buchedd, ag i drwyn-ffrwyno balchder y gwyr eglwysig a'r offeiriaid. Ag er bod yr Ymerodr hwnnw'n Dwysog Cristnogawl catholic, etto ef a fwriodd ddau Bâb, Syluerius, a Vigilius, allan o'r Pabaeth; a hynny, nid anllai, er bod onynt in Vicariad Christ, ag in cynnal swydd Pedr Abostol.
Gan fod hyn ynte, gan allu o'r Rhagbennaethiaid a'r gwyr mwy a‘u gwaedogoeth gyd-scrifenny'n y Gymanfa-Gyngor, oni alle Ymerodreu, a Brenhinoedd, wneuthyr y cyfryw? Yn wir ni buase raid i ni wneuthyr cybyd ymadrodd mewn achos moreglur, oni bae fod i ni a wnelom a'r fath wyr ydynt arfer (er mwyn gwrhydri) o wadu pob peth er eglured fyddo; ⟨p. 174⟩ie yr petheu y maent yn eu canfod geyr eu bronneu, ag yneu gweled a‘u llygeid eu hunain. Yr Ymerodr Iustinianus a wnaeth gyfraith i ddiwygu buchedd, ag i drwyn-ffrwyno balchder y gwyr eglwysig a'r offeiriaid. Ag er bod yr Ymerodr hwnnw'n Dwysog Cristnogawl catholic, etto ef a fwriodd ddau Bâb, Syluerius, a Vigilius, allan o'r Pabaeth; a hynny, nid anllai, er bod onynt yn Vicariad Crist, ag yn cynnal swydd Pedr Abostol.
Gedwch i ni ystyrio bellach a thalfyrru hyn o ymadrodd: y gwyr sydd ag awdurdod genthynt ar yr Escobiō: yr rhai a dderbyniasant orchmynion oddi wrth Dduw ynghylch gwir grefydd; y rhai sydd in dwyn Arch Dduw adref drachgefn: in gwneuthyr Psalmeu sanctaidd; in olygwyr ar yr offeiriaid: in adeiladu Temleu; in traethu ymadroddiō o wasanaeth Duw; in ail-lanhau'r Demleu: in bwrw i lawr uchelfeudd: in llosci llwyneu'r Eulunod; in dyscu'r offeiriaid eu swyddeu, ac in scrifenny rheoledigaetheu iddynt i arwain eu vuchedd; in lad y Prophwydi annuwiol; in symmyd yr Escobion o' lleoedd: in galw Cymanfa-Gynghorau Escobion: in eistedd gyda‘r Escobiō ag in eu hyfforddi nhwy: in barnu Escob heretic iw gospedigaeth;