B10304:193
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr beth meddwch, os yw dadleyddion y Pab, a'i Abbadeu, a'i Escobion, in ddiragrith wedi ym-ddangos in gwbl-elynion i'r Efengyl, heb finny gweled mo'r peth a welant, gan wneuthyr traws-amharch i'r Scrythurau glan? A'u bod nhwy wrth welled a gwybod, in llugru, ag in llwyr ddiwyno gair Duw, gan gam-droi a dirnad i'r Pab drwy annuwiol weniaith y petheu a ddoetpwyd in ddiau, ag in briodol jawn, am Grist ei hun, ag ni ellir mewn mod in y bid ddevalld m'enynt am neb arall?1 Beth o doedant may'r Pab yw pob peth in ollawl, ag uwch ben yr holl betheu? Neu allu onaw ef wneuthyr pob peth ag allo Christ: ag may'r un farn-eisteddfa, a'r un Gynghorfa sydd ir Pab ag i Grist? Neu may'r Pab yw'• Goleuni hwnnw a ddeve i'r bid? Yr hyn eirieu a lefarodd Christ amdano'i hun in unig; a hefyd may drwg weithredwr yw pwy bynnag a gilio, gan ochel y goleuni hwnnw? Neu, ddarfod i'r holl Escobion eraill dderbyn o gyffownder y Pab? Ar ⟨p. 157⟩fir o eirieu, beth o gwnant hwy reithieu a deddfau in gwbl wrthwyneb i wir air Duw, a hynny, nid in guddiedig eithr in gyhoeddedig ag in amlwg: etto, ai anghenrhaid ydyw, in y man, May Efengyl yw beth bynnag a ddoetto‘r gwyr hyn? Ai nhwy ydyw llu Duw? Neu a fydd Christ in eu plith nhwy yno gar-law? A leinw'r Yspryd glan in eu tafodeu nhwy: neu allant hwy ddoedyd in ddiffuc, Yr yspryd glan a nine a dybiassom fall hyn? In wir, ni russodd Petrus a Soto, 2a'i gydymaeth Hosius ddoedyd fod Yspryd Prophwydoliaeth, a'r Yspryd glan, ag Yspryd y Gwirionedd, gan y Cyngor hwnnw in yr hwn i barnwyd Christ iw farfolaeth. Ag nadir un o‘r ddau, nag anwir, nag offer chwaith, oedd, y peth a ddoedodd yr Escobion hynny, Y mae gennym-mi Gyfraith, ag wrth y Gyfraith honno ef a ddyle farw; a darfod iddynt wrth ddoedyd hynny farnu gwirionedd y farnedigaeth. Herwydd felly medd Hosius, ag may barn gwbl-gyfiawn oedd yr hon a rowsont gan lefaru fod Christ in haeddu marwolaeth. Y mae'n rhyfedd, dybygwn'i, na ddichyn y gwyr hyn ddoedyd drostynt eu hun, ag ymddiffyn eu hachos, and rhaid iddynt hefyd gymryd plaid gyda'g Annas a Chaiaphas. Canys y rhai a ⟨p. 158⟩ddoedant may Cyngor cyfiawn cyfreithlawn ydoedd hwnnw in yr hwn y barnwyd mab Duw i wradwyddus farfolaeth: pa Gyngor, ynte, gan hynny, a alwant hwy‘n ddrwg ag in anghyfiawn? Ag etto y cyfryw faith yw eu Cynghorau nhwy gan-mwyaf y gyd, na allent hwy amgen no llefaru hyn am y Cynghor hwnnw a gynhaliodd Annas a Caiaphas.