B10304:242
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IN gymeint am bot i in gwybot in yspys lle ny weleis am llygait, vot pop gwlat o Ruvein yd yma megis Germania vawr, a'r Almaen, Polonia, Lloegr a' Phrydyn, Ffrainc, Llydaw Llychlyn, Iwerddon, a' rrei wrth glun y gelyn in yr Ital a'r Yspaen, je ac mewn ynysoedd, gorwledydd, artaloedd a' broedd eraill, in awyddus ac a mawr groeso in derbyn gair Dyw drwy ail ulodevat Evangel ein Arglwydd Jesus Christ, y mae in dra salw genyf dy welet ti wlat Cembru, a vu ryw amser gyntaf, yr owrhon in divot in olaf ynghyf•yw ardderchawc oruuchafieth a hynn: deffro dithe bellach Gymbro glan, uy annwyl, am caredic ⟨p. 210⟩urawt ynghrist Jesus: paid ath ddigenedlu, paid ath ddifrawy, paid ac edrych ir llawr, tremia y uyny tu ar lle ith hanyw: na chwanega mwy om dolur, cadw ith cof a ddywait ath wir gar: ystyria sy tan dy law, cowleidia, ac erbyn attat yr anrheg nefol a ddanfonawdd trugaredd yr Arglwydd yt heddiw. Coffa 'r hen amser, ymofyn ath henafiait, chwilia'r 'storiay, ti a fuost gynt anrhydeddus, ac uchel dy fraint. Ni wna vi son am urddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a'ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, disc, doythineb, ar athrylith ragorawl (cyd bay canmoladwy hyn oll, a'digon o profedigaeth rhagorfraint, ac uchelder ymysc pa nasiwn bynac i ceffit hwynt) ac ny bydday anhawdd i mi roi trosof audurdot o hen lyfray cofion, ac ystoriay dilys, i gadarnhau a'gwirhau, fod y cyneddfay ar rhinwedday hynny oll in amlach, ac in helethach ar y Brytaniait in yr hen amser nac ar nasiwn ac ydoedd yw cymdogaeth oy amgylch. Eithr nid ymyrhafi ar ddim or hain. Dwyn cof a ⟨p. 211⟩wnaf am un rhinwedd ragorawl a gydbwysa y rhei uchod oll, ath harddai gynt, ac a rodday yt ragorfraint a goruchelder, self crefydd dilwgr, crysty nogaeth bur, a ffydd ffrwythlon ddiofer. Canys dowait Sabellius historiawr ddarvot i ynys Prydain dderbyn ffydd Christ in gyntaf un or oll ynysoedd, ac nid heb achos: o blegit in y ddecset flwydyn ar ugain ar ol derchafiad Christ i doeth ir deyrnas honey Senadur anrhydeddus Joseph o Arimathea discybl Christ ac eraill discyblon crystynogaidd dyscedic gidac ef: y gwyr hynn megis ac i derbyniasont wy'r ffydd a'r crefydd ar crystynogaeth can Christ i hun, ay Apostolion, felly y pregethasont, ac i dyscasant in y teyrnas honn.