RICHARD CAN RAT DYW Episcop Menew, in damuno adnewyddiat yr hen ffyd catholic a' golauni Evangel Christ ir Cembru oll, in enwedic i bop map eneid din o vewn ey Escopawt.RICHARD CAN RAT DYW Episcop Menew, yn damuno adnewyddiat yr hen ffyd catholic a' golauni Euangel Christ ir Cembru oll, yn enwedic i bop map eneid dyn o vewn ey Escopawt.
pp. 209–25033 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
RICHARD CAN RAT DYW Episcop Menew, in damuno adnewyddiat yr hen ffyd catholic a' golauni Evangel Christ ir Cembru oll, in enwedic i bop map eneid din o vewn ey Escopawt.
RICHARD CAN RAT DYW Episcop Menew, yn damuno adnewyddiat yr hen ffyd catholic a' golauni Euangel Christ ir Cembru oll, yn enwedic i bop map eneid dyn o vewn ey Escopawt.
IN gymeint am bot i in gwybot in yspys lle ny weleis am llygait, vot pop gwlat o Ruvein yd yma megis Germania vawr, a'r Almaen, Polonia, Lloegr a' Phrydyn, Ffrainc, Llydaw Llychlyn, Iwerddon, a' rrei wrth glun y gelyn in yr Ital a'r Yspaen, je ac mewn ynysoedd, gorwledydd, artaloedd a' broedd eraill, in awyddus ac a mawr groeso in derbyn gair Dyw drwy ail ulodevat Evangel ein Arglwydd Jesus Christ, y mae in dra salw genyf dy welet ti wlat Cembru, a vu ryw amser gyntaf, yr owrhon in divot in olaf ynghyf•yw ardderchawc oruuchafieth a hynn: deffro dithe bellach Gymbro glan, uy annwyl, am caredic ⟨p. 210⟩urawt ynghrist Jesus: paid ath ddigenedlu, paid ath ddifrawy, paid ac edrych ir llawr, tremia y uyny tu ar lle ith hanyw: na chwanega mwy om dolur, cadw ith cof a ddywait ath wir gar: ystyria sy tan dy law, cowleidia, ac erbyn attat yr anrheg nefol a ddanfonawdd trugaredd yr Arglwydd yt heddiw. Coffa 'r hen amser, ymofyn ath henafiait, chwilia'r 'storiay, ti a fuost gynt anrhydeddus, ac uchel dy fraint. Ni wna vi son am urddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a'ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, disc, doythineb, ar athrylith ragorawl (cyd bay canmoladwy hyn oll, a'digon o profedigaeth rhagorfraint, ac uchelder ymysc pa nasiwn bynac i ceffit hwynt) ac ny bydday anhawdd i mi roi trosof audurdot o hen lyfray cofion, ac ystoriay dilys, i gadarnhau a'gwirhau, fod y cyneddfay ar rhinwedday hynny oll in amlach, ac in helethach ar y Brytaniait in yr hen amser nac ar nasiwn ac ydoedd yw cymdogaeth oy amgylch. Eithr nid ymyrhafi ar ddim or hain. Dwyn cof a ⟨p. 211⟩