B10304:245
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ni allodd chwaith gaulith ac heresy Pelagius penadur y vanachloc fawr ym* angor gynt (cyd bay ef arfog o bab disc a' chelfyddyt, a mawr eu audurtot ae gymeriat in i wlad) anrheithio 'r Chrystynogaeth ymhlith y Brytaniait. O ymgoledd ⟨p. 216⟩Duw udyntwy ac ir oll Chrystynogaeth i codai S. Austin, Cyril, Jeron, Orosius, Benadius, Innocentius, ac eraill gyfryw o'levadae, a' philerae 'r grystynogaeth ae pinnae ae tafodae i wrthladd gaulith ac heresy Pelagius. Or unryw ymgeledd Duw ir Brytaniait i codai Dewi Archescop,2 ac eraill ddyscedigion y Deyrnas trwy 'ofalus a' dyfal pregethu ac yscrifenu i ddiffoddi'r fflamm ar gwenwyn. Ac i douai hefyd ir dyrnas hon Escopion gwynfydedic a' phregethwyr teilwng, Garmon Escop Altisidor, a Lupus Trecensis,3 a' chleddyf gair Duw centhynt, i wahanu'r amhuredd a lithrasai i mewn ir Chrystynogaeth trwy waith yr unryw Pelagius ae blait, a' thrwy waith cydymdeithas y Sayson, rhain pride hynny oeddent paganiait, a' ddarfodd i Gwrtheyrn Brenin y Brytaniait i cynwys ai derbyn ir deyrnas y ryfela trostaw in erbyn i'elynion. Ysbys ydyw i bawb sin darllain historiay beth fu ddiwedd yr ymdynnu rhwng y Sayson ar Brytaniait: y Brytanieit a'orfu arnynt gilio i gyrau ac eithawoedd yr ynys, i Gymru, ac i* Gernyw: y Sayson a'orchfygasant, as a wladychasont Loygr. Ac fall hyn i digwyddodd fod ⟨p. 217⟩in her o amser Paganieit a Chrystynogion in yr un teyrnas, ar unwaith, hid pan oedd oed Christ 600.5 neu ynghylch hyny, i danfonodd, Gregor Escop Ruvain Awstin i droi'r Sayson ir ffydd. (Nit Awstin ddyscedig yr Athro mawr, eithyr Awstin vanach, rhwn a elwir Apostol y Sayson.) Trwy waith hwn i troed y Sayson hwyntwthae ir Chrystynogaeth. Ac velly ir aeth Chrystynogaeth tros wyneb y deyrnas, cyd bay wahan mawr rwng Chrystynogaeth y Brytaniait, a'r eilun Chrystynogaeth a dduc Awstin ir Sayson. Y Brytaniait a gadwasai eu Chrystynogaeth in bur ac in ddilwgr, heb gymysc dechmygion dynol, mal i derbyniesynt gan Joseph o Arimathea dyscipl Christ, a' chan Eglwys Runain pan ydoedd bur in glynu wrth rheoledigaeth gair Duw. Y Chrystynogaeth a dug Awstin ir Sayson a lithrasai beth oddiwrth purred yr Efengel, a' thervynay 'r hen Eglwys, ac ydoedd gymyscedic a lawyer o arddigonedd, gosodigaythay dynion, a ceremoniae mution, anghytun a nature teyrnas Christ.