B10304:250
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
self testlaythy i wollys ar llywodraeth a fynnont i fod ar i hol ar ey da ae dynion. Weithiau arwyddocau a wna y peth a cymuner, ac a wollyser trwy figure a elwir trawsgymeriat: ac felly i gellir galw maddevaint y pechodae, testment. Y trydydd mod ai cymer in lle rhwym neu ammot sy rhwng Duw a din. Canys Duw ai rhwymawdd ef ihun i ni wewn ammodae,1 yr hay a fynnawdd ef i bot in gyhoedd, ae hespesu: lle mae i ni welet beth sy i ni yw gael canthaw: pa ymwared, ⟨p. 227⟩pa ymddiffin, pa ytifeddiaeth, pa ymgeledd, a' pha ddayoni. Ac or tu a rall, beth sy i ni yw wneuthyr tra from mewn pererintot y bit hwn: beth i mae Duw in y ofyn cenym, pa wasanaeth ae boddhaa, pa fuchedd ai bodlona, ac fydd cymradwy cantho. Din herwydd llwgr i nature ni wyr ddim o ddiwrth Dduw, onis cyrch or Testament hwn. Yma in unic i ceir gwybodaeth am ordinhaad, llywodraeth, a' thragwyddawl wollys Duw: pa anrhydedd, addoliant, a' gwasanaeth a fin, pa grefydd, pa 'orchmynion, a' pha fuchedd a eirch. Duw nit oes ynthaw newidiat, nac anwadalwch. Yr un Duw in yr hen Testment, ac in y Newydd. Ac am hyny un Testment ywr Hen a'r Newydd, ar randevnydd, sylwedd ac ansawdd. Galw a wneir yr hyny cymaint oll a ddangosawdd Duw oi wollys, ae lywodraeth,2 oi 'ofynion oi 'orchmynion, ir pobl hen cyn geni Christ, yr hen Testment. Heb wahan in y bit ir hynny rryngthynt a phobl y testment newydd, onit cymaint a fyddai rhwng dau din i rhoit cnau uddynt, ir nail i rhoit hwynt in i cibae: ir llall in barawt wedi i gwiscio. Y cyfflybrwyd hwn a ddwc in eglurach ⟨p. 228⟩beth dial it i ar y gwahanieth rwng y ddau pobl (cymer hynn gida thy: ni pherthyn estyn cyfflybrwydd in rhybell) velly gan hynny nit o ran y crefydd, and o ran y mod ir adroddit, ac i dyscit y crefydd i mayr gwahan. Yr hen pobl i rhoit crefydd Duw, a' Christynogaeth Christ attunt tan elfenay bydol, tan ffyguray, cyscoday, arwyddion, ac amryw ceremoniæ, ac ymweini corphorawl. In yr hein, a' than yr hein oi dosparth ai deongl, oe egori ai esponio i ceid pwyll, ac arwyddocaat sprydol am tracwyddawl wollys Duw ay gyfraith, a' dyfodiat Christ mewn cnawt, eu ddioddefaint a' phrynnedigaeth y bit.3