B10304:251
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pobl y Testament newydd herwydd dyfodiat Christ a gowson rhydit a' gollyngtot o wrth oll ceremoniæ, Ffyguray, ac eraill, y rhac ddoydedic arwyddion, ac a roir attunt tracwyddawl wollys Duw, y crefydd, ar Christynogaeth […] •goret, ddiymgudd, mewn ysprydola•th a' gwir in i rhith eu hun. In y Testment newydd yr arwyddion ar oll ceremoniæ corphorawl a giliasont, a ddarfu•nt, ac a ddiflannasont. Dau arwydd heb fwy a ordinhaodd Christ i bobl y testment newydd: Bedydd ⟨p. 229⟩a' Chymmun,1 ne val y gailw S. Paul Swper yr Arglwydd. Hefyt yr hen testment a' ordinhaodd Duw tros amser i un genedl, self ir Iddewon in unic: y testment Newydd a gyrydd atoll genhedloedd y bit, heb wahan rhwng nasiwn ai gilidd. Bellach may cenytti amcan pam i gelwir y nail in Hen, ar llall in Newydd: in hen am i fot in dyscu tracwyddawl wollys Duw, y gwir crefydd a' Christynogaeth yr hen pobl cyn geni Christ:2 in newydd am i fot in dyscu yr un peth ir pobl wedy geni Christ: in hen am i fot in dyscu un genhedlaeth in unic, self yr Juddewon: in newydd, am i fot in disc i oll genhedloedd y bit in ddiwahan. In hen am i fot in dyscu trwy arwyddion elfenay bydol, a' ceremoniæ corphorawl: in newydd am i fot in dyscu in 'olau ddiymgudd trwy ysprydolaeth a' gwir in i rith i hun. Cym•r ef ith law, fymrawd, a' darllain: yma i cei welet ple i buosti gynt, yma i cei ymgydnabot ath hen ffydd, ar Chrystynogaeth ganmoladwy oedd cenyt gynt. Yma cei'r ff•dd a ymddiffynaist hid at tan a'r cleddyf, ac i merthyrwyt dy crefyddwyr ath rei dyscedic gynt in i chweryl. Ti and ⟨p. 230⟩antur, dierth yw cenyt glowet fot dy hen ffydd di ay hanes or Testament, a' gair Duw: canys ni welaist irioed y Bibl neu'r Testament in Gymraeg nac mewn scrifen nac mewn print. In lle gwir ni ffynnodd cenyfi irioet gael gwelet y Bibl in gymraeg: eithr pan oeddwn fachcen cof yw cenyf welet pump llyfr Moysen in Gymraeg, o fewn tuy3