B10304:253
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac am hyny i perthynae i din nad amheve ymgeledd a' gallu Duw, a' chredu i cowira ef i addewid, self i bid pob peth in ddr•ndlawt ir neb a ofalo in gynta am teyrnas Duw ae chyfiownder. Ac am hyny gwir yw'r ddihareb, A Dvw a' digon. Ystyria yma hefyt hyn a ddowait ⟨p. 233⟩Christ in y ix pen o Evangel Luc,1 Beth a dal i din ynill yr oll fyd ae ddistrowio i hun, neu i golly i hun? Canys pwy bynac a gwilyddio om pleit i, am geirie: o bleit hwnw i cwelyddia Mab y din pen ddelo yw 'ogoniant, &c. ac velly rhagoch. In yr ymadroddion hyn, ac in y geirie sy nesa o ulaen yr hain in y pen doydedic, i gweli gadarnhau y ddaru arall ir ddihareb, self, Heb Dduw, heb din. Tro2 bellach at yr viii pen o'pystel Pawl abostol at y Ruveniait. Beth ddoydwnu i gan hynny wrth y pethae hynn? Obydd Duw gida ni, pwy a all fod eyn herbyn? Rhwn n•d arbedodd i Vab y hun, eithr ae rhoddes tros•mmi, pa fodd nas rhydd ef hefyt pob peth in gidac ef? Nid rhaid ym boyni ymhellach i ddwyn ar dial yt o ble i tyfodd dih•reb y Cymro, A' Duw a digon: heb Dduw, heb ddim. In yr Scrythr 'lan i mae i gwraidd, ey hanas,3 ac dechrevad. And (y sywayth) cyd bo 'r ddihareb in aros y mysc y Cymru, ar geiriae 'n gyffredinawl, etto hi a golles in llwyr i ffrwyth. Edrych ar dull y bid, yno i cei brofedigaeth. Mae 'n gymaynt trachwant y bid heddiw i tir a' dayar, y aur, ac arian, a' chowaeth, ac na cheir and in anamyl un in ymddiriet ⟨p. 234⟩i Dduw, ac yw addaweidion. Trais a lladrad, anudon, dichell, ffalster, a'thraha, a rhain megis a chribynae mae pob bath ar din in casclu ac in tynnu atto.4 Ni fawdd Duw y bid m•y a dwr diliw: eithr mae chwant da r bid wedi body Cymru heddiw, a' chwedi gyrru ar aball pob ceneddfae arbennic a rhinwedd dda. Canys beth yw swydd ynghymru heddiw and bach i dynu cnu a chnwd ey gymydoc attaw? beth yw disc gwybodaeth a' doythineb cyfaith and drain in ystlys y cmedogion i berry yddynt gilio hwnt? Amyl ynghymru, ir nas craffa cyfraith, i ceir nevadd y gwr bonheddig in noddfa lladron. Maddeuwch i mi hyn o gaswir, herwydd precethu'r caswir is y in fars y precethwr: am hyny pe rryngwn vodd dynion ny byddwn wasanaethwr Christ, yr hwn y glywaf ey lief in imclust in sonio, I lefa in groch, nac arbet: dyrcha dy lais val trwmpet, a'manec im popul eu henwiredd ai pechoteu: nyd ynteu molach, nyd gweniaith, nyd petheu bodlon.