B10304:254
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am hyny y dywedaf, oni bay fraych ac adain y gwr •onheddig ni bydday and ychydig ladrad ynghymru. Mi a wn fod boneddigion o wyr da ac in casau lladrat, ac in difa ⟨p. 235⟩lladron: nid wyfi in doydet dim in erbyn yr heini. Ni chaffy o ennyt yma fanegi yr anrhaith a wnaeth chwant da bid, ac angrhedinieth i addaweidion Duw ar bob rryw din ynghymru o eisio dysceidieth yr yscythr 'lan, a' chydnabod a' chowirdeb a grim y ddihareb sy gyffredinol in i mysc, A' Duw a' digon, heb Dduw heb ddim. In nesa at hyn, ni a gymerwn yr ymadrodd hwn, self A' gair Duw in ucha: ymadrodd cyffredinawl ydyw in yugwlad i, pan amcano din ddoyd•t, gwneuthyr, neu fined y unlle, val hynn i dowait,1 Mi a wna, mi a ddoyda, nen mi af ir man a'r man a gair Duw in uchaf. Evengelaidd a' chrystynogaidd yw'r ymadrodd hwn a' chytun ar scrythyr 'lan or lle i ganad ac i magwyt. Canys vellyn e dowaid y prophwyt Dauyd, Union yw gair yr Arglwydd, ae oll weithredoedd ef y sy ffyddlon, ac ychydig rhag law. Twi 'air yr Arglwydd i gwnaethpwyt y nefoedd ae oll byddinoedd hwy, trwy yspryt eu enai•. Psalm. 33. A'r prophwyt Isaiah y•tau. At y gyfraith ar prophovyd•, oni ddoydant hwy ar ol y gair hwn: hyny fydd am nad ••s goleuni ynthunt. Isaiah. 8. Christ in y. xxiiii. pen. o Matthew. Nef a ddyar a gerddant, eithr ⟨p. 236⟩fyngeiriau i nid ant heibio. A' thrachefn O car neb fi, ef a geidw fyngair i. Jo. 14. in y mannae hyn i mae hawdd gwelet o ble ir hanoedd yr ymadroedd hwn, A' gair Duw in ucha. Pan ddechreuwyt a' phan ddycbwyt yr ymadrodd hwn i arfer gyffredinawl i rydoedd gair Duw in anrhydeddus, ac in fawr y bri arno. Canys pan ddoyto din, A' geir Duw in ucha, cymeint yw a' phe doydei, Trwy na bo in erbyn gair Duw, neu, a gair Duw in caniadu: neu trwy i vod in gytun a gair Duw mi a wnaf, neu mi a ddoyda hynn neur llall. Wrth hyn credu i royddynt in yr amser hwnw nad oedd jawn yddynt wneuthr, na doydet dim in erbyn gair Duw. Dina ffydd a chrefydd y Cymru gynt a descent wy or scrythyr 'lan, o 'air Duw, ac o Evangel Jesus Christ. Eithr i ble y tynnodd Eglwys Ruvain hwynt wedy hynny? In wir nid i adael gair Duw in ucha, and yw ddistyru ae fychanu. Gair Duw a ddowait, Na wna y ty hun ddelw gerfedig, na llun dim y sy'n y nef uchod, neu in y ddayar isod, nac in y dwr dan y ddayar: nac ymo iwng uddynt, ac na addola hwynt.