B10304:67
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nyni a'ttebwn fall y gwnaeth Saint Pawl: ynol y ford y maent hwy'n ei galw'n Heresi yr ydym-mi'n addoli Duw Tad eyn harglwydd Jesus Grist,1 ag in cofleidio'r holl betheu sydd scrifennedig, pan bynnag ai in y ddeddf, ai in y Prophwydi, ynte in llyfreu'r Apostolion. Am hynny od ydym-mi Here•iciaid, od ydynt hwytheu (megis y mynnant eu galw) Gatholiciaid, pa ham nad ydynt in cymeryd yr un llwyb'r ag a ddarfu i'r Catholic Dadeu ei gymeryd? Pa ham nad ydynt in gorchfygu eyn hathrawiaeth ni Drwy nerth y Scrythureu glan? Pa ham nad ydynt in eyn galw drach-refn i'n holy wrth y rheini? Pa ham nad ydynt in dangos ddarfod i ni ymwrthod a Christ, a'r Prophwydi: a‘r Apostolion, ag a‘r Tadeu Sainctaidd? Pam y maent in oedi gwneuthyr hyn: Pam y maent in rhusso: Duw ⟨p. 22⟩piau'r Achos: Pa ham i'r amhevant ei holy ai dreio wrth air Duw: Od ydym-mi Hereticiaid y sawl ydym in dwyn eyn holl ymrafaelion i'w huniowni wrth air Duw, ag ydym in mynny eyn barnu wrth y gwir eiriau y gwyddom ddarfod iddynt ddeilliaw oddi wrth Dduw ei hunag ydym hefyd in dewis y rheini o flaen yr holl betheu ar a aller en dychymmig: Beth ynte amdanyn-nhwy, pa fodd y mae'n weddus eu galw, y rhai ydynt in ofni barn y Scrythurau glan, self, barn Duw eu hunan? ag in dewis, in hyttrach eu breuddwydion a'u hoerllyd ddychymygion eu hun, o flaen gair Duw? ag o ran cadw, achynnal, eu Tradoddiadeu eu hunain, a ddarfu iddynt er is talm o oesoedd, ddi fwyno a di-ysturu deddfodau Christ a'r Apostolion: Doedyd yr ydis am Sophocles Prydydd y trychni, pan ydoedd ef wedi heneidddio, a darfod yw feibion ef ei gyhuddo, a dangos geyr bron y Barnwyr fod onaw ef in amhwyllo ag in ynfydu, megis din nid oodd waeth gantho beth a offer-dreulie, na pha fodd y bwrie ymmaith ei dda a'i ddodrefn, a bod in rhaid iddo wrth un i of alu amdano, ag i w ymgyleddu: ddyfod o honaw yntef iw ddiheuru ei hun o'r peth a heurid arno, gar bron y ⟨p. 23⟩barnwyr, ag wedi iddo draethu Owdl trychineb a elwid Oedipus Coloneus yr hon a wnaethai ef in orchestol jawn, ag in gynghaneddgar dross ben, y pride y doetpwyd arno fod in ynfyd: gofyn o hono i'r Barnwyr oi waith ei hun, ydoedd gyffelybus y medre din ynfyd wneuthyr y faith gerdd?
Nyni a'ttebwn fal y gwnaeth Saint Pawl: ynol y ffordd y maent hwy'n ei galw'n Heresi yr ydym-mi'n addoli Duw Tad eyn harglwydd Iesu Grist,