B10304:72
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
fod yr eglwys hon in deyrnas, in gorph, ag in briodasferch i Grist: fod ⟨p. 27⟩Christ in voig dwyssog y deyrnas honno? in unig Ben y corph hwnnw: in unig briod i'r briodasferch honno. Fod amryw radd eu gweinidogion in yr Eglwys hon, rhai'n Ddiaconiaid, rhai in Offeiriaid, eraill in Escobion i'r sawl yr ymddiriedwyt hyfforddi'r bobl ag astud-ofalu am dwf a chynnyddiad crefydd: ag er hynny, nad oes, ag na ddychyn bod un din daiarol a eill gael cwbl-oruchafiaeth ar hyn o gyffredinoldeb. Herwydd bod Christ in oestadol gida'i Eglwys, ag nad rhaid iddo wrth Raglaw, in ei le, megis i etifeddu'r cwbl oi gyfoeth, nad oes un din byw ym-meddwl yr hwn y gall enny'r Eglwys gyffredinol, self, pob mangre, a phob darn o'r holl fyd: nag un din a ddichō drefnu, a llywodraethu'r cwbl mewn cyfiownder a chymwysder:1 fod yr holl Apostolion (fall y dywed S. Cyprianus) o'r un awdurdod y nail a'r llall: fod pob un onyn• yr un peth ag ydoedd Pedr: darfod i Christ ddoedyd wrthynt y gyd, Porthwch: a doedyd wrth bob un o honynt gystal ai gilydd, Ewch i'r holl fyd: adoedyd wrthynt bado un, Dys•wch yr Efengyl i bawb. 2Ag (fall y dy wed Sanct Hieronimus) fod yr holl Escohion or un oruchafiaeth ag o'r un faith offeiriadeth, pale bynnag in y bid oll y byddant, ai in Rhufain, ai'n Eugubium, ⟨p. 28⟩ai‘ngh Constantinopl, 3ai ynte'n Rhegium. Ag (fall y dywed Cyprianus) nad oes ••id un Escobaeth, a bod pob Escob in dal darn pyb yr o honno, Doedyd yr ym hefyd ynol barnedigaeth y Gymanfa-Gyngor a fu'n y dref Nicaea, nad oes i Escob Rhufain mwy o Rwysg a goruchafiaeth ar Eglwys Dduw, nag sydd i'r Patrieirch eraill, self o Alexandria, ag o Antiochia. Ag am Bab Rhufain, yr hwn a fin yrowro• alw pob peth geir ei fron ei h•n, oni wna ef a ddyle onis gwasnaetha ef y Sacramenteu, onis hyffordda ef y bobl, oni rybuddia, agony ddwsc ef nwhy? doedyd y rydym nad yw jawn mo'i alw, nag in Escob, nag in offeiriad. Canys fall y dywed S. Awstin) henw gwaith, ag nid anrhydedd yw Escob: herwydd ef a sin ir gwr hwnnw gydnabod ag efo'i hun, nad Escob mo'naw a gais ddwyn rhwysg iddo'i hun heb wneuthyr llesaad i eraill. Na ddichyn na'r Pab, na neb arall in y bid, fod in ben i'r holl Eglwys, neu'n Escob hollawl universalaidd neu gyffredinol, mwy no bod in Briod, in Oleni, in Jechyd, ag in Fywyd i'r Eglwys, Canys y rhagorfraint, ar henwau hyn, ydynt in briodol, ag in unic in gyfaddas i Grist ei bun, ag nid i neb arall.