B10304:75
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A doedyd ymhellach yr ym, rhoddi o Grist iw wenidogion gwb'l allu i rwymo, i ryddhau, i gau, ag agoryd: Ag nad yw'r swydd i Ryddhau ddim amgen, onid y nail ai cynnig o'r gweinidog (drwy bregaeth yr Efengyl) haeddedigaetheu Christ, a gollyngdod o'u pechoden, ir sawl a fo gostyngedig eu calonneu mewn gwir edifeirwch, gan draethu iddynt ddiau faddevant a gobaeth Jechyd tragwyddol: ai ynte, enill o'r gweinidog drachefn, a dwyn adref a dad-roddi i fewn teulu ag undod y rhai ffyddlon, y sawl ydifarhaus a anfodlonassant galonneu eu brodyr drwy gamwedd hynod a chyhoeddys, wedi iddynt ymneullduo am hynny, ag ymddieithro (in ei herwydd) oddi wrth cyffredin gymdeithas yr Eglwys, a chorph Christ.
A doedyd ymhellach yr ym, rhoddi o Grist iw wenidogion gwb'l allu i rwymo, i ryddhau, i gau, ag agoryd: Ag nad yw'r swydd i Ryddhau ddim amgen, onid y naill ai cynnig o'r gweinidog (drwy bregaeth yr Efengyl) haeddedigaetheu Crist, a gollyngdod o'u pechoden, ir sawl a fo gostyngedig eu calonneu mewn gwir edifeirwch, gan draethu iddynt ddiau faddeuant a gobaeth Iechyd tragwyddol: ai ynte, enill o'r gweinidog drachefn, a dwyn adref a dad-roddi i fewn teulu ag vndod y rhai ffyddlon, y sawl ydifarhaus a anfodlonassant galonneu eu brodyr drwy gamwedd hynod a chyhoeddys, wedi iddynt ymneullduo am hynny, ag ymddieithro (yn ei herwydd) oddi wrth cyffredin gymdeithas yr Eglwys, a chorph Crist.
Ag y rydym i'n doedyd, fod un in arfer yr awdurdod i rwymo, cyn fin yched ag y cavo efe borth Teyrnas Nefoedd in-nerbyn yr Anghredinieid a'r rhai cyndyn, gyda thraethu o honaw ef iddynt lwyr dial Duw, a thragwyddol gospedigaeth; Neu ynte cynifer gwaith ag y cavo efe allan o fynwes a chofleidiad yr Eglwys, y rhai a escumunwyd in gyhoeddus. Diau pa farn bynnag, in y mod hyn, a roddo gweinidogion Duw, fod hynny mor gwbl gymeradwy a chin fodloned gan Dduw ei hun, ag iddo ynte Ryddhau, a Rhwymo, in y Nefoedd, pob peth a Ryddhevir neu a rwymir drwy eu gwaith nhwy ar y ddayar.
Ag y rydym i'n doedyd, fod vn yn arfer yr awdurdod i rwymo, cyn fyn yched ag y cauo efe borth Teyrnas Nefoedd yn-nerbyn yr Anghredinieid a'r rhai cyndyn, gyda thraethu o honaw ef iddynt lwyr ddial Duw, a thragwyddol gospedigaeth; Neu ynte cynifer gwaith ag y cauo efe allan o fynwes a chofleidiad yr Eglwys, y rhai a escumunwyd yn gyhoeddus. Diau pa farn bynnag, yn y modd hyn, a roddo gweinidogion Duw, fod hynny mor gwbl gymeradwy a chyn fodloned gan Dduw ei hun, ag iddo ynte Ryddhau, a Rhwymo, yn y Nefoedd, pob peth a Ryddheuir neu a rwymir drwy eu gwaith nhwy ar y ddayar.