B10304:78
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1Hyn meddwn-ni yw dealld yr agoriadeu, ag in y mod hyn y mae cau neu agoryd cydwybodeu dynion: Cyfadden'r ydym mae'r offeiriad sydd farnwr in yr achos hwn: eithr etto er hynny, nad dyledus iddo (fall y dywed Saint Ambros) roi hawl a'r oruchafiaeth ag awdurdod fall pe• te in eiddo ef:2 Ag am hynny y rhodd Christ sen i'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid Iddewaidd (o herwydd eu esceulustra hwy'n dyscu'r bobl)3 Gwae chwi (bebr ef) Scrifenyddion a Pharisæaid y rhai addygasoch ⟨p. 33⟩y math agoriadeu'r gwybodaeth ag a gavasoch Deyrnas Nefoedd o flaen dynion. 4A chan nad yw‘r agoriad, a‘r hwn yr agorir i ni ford i deyrnas Dduw ddim amgen onid gair yr Efengyl a dehenglad y Gyfraith a‘r Scrythurau glan, doedyd y rydym, in ddifadde, lle ni bo‘r gair hwn nad oes yno mor agoriad y chwaith. A chan na roddwyd and gair o‘r un faith i bawb, ag nad oes and un unig agoriad in perthyn i bawb, Nid oes hefyd meddwn-ni onid un unig allu i bawb o‘r gwenidogion i gau ag i agorryd. Am Bâb Rhufain, er bod ei ragrithwyr in atcanu iddo un wenieuthus y geiriau hyn, Mi a roddaf i ti agoriadeu teyrnas Nefoedd, 5(fall pe na bae gyfaddas y geirieu hynny o‘r Efengyl i neb byw arall and i'r Pab ei hun,) doedyd y rydym, oni phair ef i gydwyboden dynion ddarostwng in ystwyth i air Duw; nad ydyw ef nag in agorud, nag in cau, ag nad perchē yr agoriadeu mo‘naw. Aphe rhoem ei fod in dyscu ag in hyfforddi'r bobl, (yr hwn beth ni a fynnem pes gwnai ef o‘r diwedd in ddihocced: neu pe bae wiw gantho feddwl unwaith fod hynny in ddyledus arno, ag in darn oi swydd:) Etto er hyn•y, nid ydyw meddwn-ni, ei agoriad ef nag in well, nag in hyttrach, nog ogoriadeu ⟨p. 34⟩rhai eraill. Herwydd pwy a wnaeth ragor rhyngtho ef ar lleill? Pwy a ddyscodd iddo ef agoryd in gyfrwyddach, neu ryddhau in well, nog eraill o'i frodyr