Chwanega O Yspryd glân, fy nioddefgarwch; Na osod fwy arnaf fi nag a allwyf ei ddwyn, a gwna fi i allael dwyn cymmaint ac a ryngo bodd i'th fendigedig ewyllys di. O fendigedig Drindod in undod, Creawdwr, Jachawdwr, a Sancteiddiwr, canniadhâ fell y byddo fy nŷn oddiallan in diflannu, felly fod o'm din oddifewn fwyfwy trwy dy râd a'th ddiddanwch in cryfhau ac in cynnyddu. O Jachawdwr, dod fy enaid i mewn parodrwydd i fod (megis morwyn gall wedi cael y wisc briodas o'th gyfiawnder a'th sancteiddwydd) in barod i'th gyfarfod di, ag olew in ei lusern. Prioda di ef â thydi dy hun, fell y gallo ef fod in un â thydi mewn tragwyddol gariad, a chymdeithas. O Arglwydd argyoedda Satan ac ymlid ef ymmaith: gwared fy enaid oddiwrth allu y ci; cadw fi rhagsafn y llew. Yr wyf in diolch i ti o Arglwydd am dy holl fendithion ysprydol a bydol a ganniadhevaist ti i mi. in enwedig am fy mhrynedigaeth trwy farwolaeth fy Jachawdwr Christ. Yr wyf in diolch i ti am ddarfod i't fy ymddiffyn a'th Angelion Sanctaidd o'm jevengtid hid yr awr hon. Arglwydd yr wyf in attolwg i ti, dod orchymmyn iddynt i wilio arnaf nes i ti alw am fy enaid: ag yno ei ddwyn (fell y gwnaethant ag enaid Lazarus) i'th deyrnas nefol. Ac fell y byddo amser fy ymadawiad in pwyso nes-nes attaf: felly canniattâ o Dduw i'm henaid dynnu nesnes atrat ti: Ac fell y gallwyf in llawen orchymmyn fy enaid i'th ddwylaw,1 megis i ddwylaw Tàd anwyl, ac Jachawdwr trugarog: a'r pride hwnnw, O Arglwydd grasusol derbyn fy yspryd. fell y gallwyf wneuthur hyn oll, cynnorrhwya fi a'th râd: a gád i'th Yspryd glân fod gyd â myfi ⟨p. 360⟩hid y diwedd; ac in y diwedd, er mwyn Jesus Grist dy Fab, fy Arglwydd am unig Jachawdwr. In enw yr hwn, yr wyf in rhoi i tidy ogoniant, ac in erfyn yr holl bethau hyn ar dy law, in y weddi yr hon a ddyscodd Christ ei hun i mi gan ddywedyd:
Chwanega O Yspryd glân, fy nioddefgarwch; Na osod fwy arnaf fi nag a allwyf ei ddwyn, a gwna fi i allael dwyn cymmaint ac a ryngo bodd i'th fendigedig ewyllys di. O fendigedig Drindod yn vndod, Creawdwr, Iachawdwr, a Sancteiddiwr, canniadhâ fel y byddo fy nŷn oddiallan yn diflannu, felly fod o'm dyn oddifewn fwyfwy trwy dy râd a'th ddiddanwch yn cryfhau ac yn cynnyddu. O Iachawdwr, dod fy enaid i mewn parodrwydd i fod (megis morwyn gall wedi cael y wisc briodas o'th gyfiawnder a'th sancteiddwydd) yn barod i'th gyfarfod di, ag olew yn ei lusern. Prioda di ef â thydi dy hun, fel y gallo ef fod yn vn â thydi mewn tragwyddol gariad, a chymdeithas. O Arglwydd argyoedda Satan ac ymlid ef ymmaith: gwared fy enaid oddiwrth allu y ci; cadw fi rhagsafn y llew. Yr wyf yn diolch i ti o Arglwydd am dy holl fendithion ysprydol a bydol a ganniadheuaist ti i mi. yn enwedig am fy mhrynedigaeth trwy farwolaeth fy Iachawdwr Crist. Yr wyf yn diolch i ti am ddarfod i't fy ymddiffyn a'th Angelion Sanctaidd o'm ieuengtid hyd yr awr hon. Arglwydd yr wyf yn attolwg i ti, dod orchymmyn iddynt i wilio arnaf nes i ti alw am fy enaid: ag yno ei ddwyn (fel y gwnaethant ag enaid Lazarus) i'th deyrnas nefol. Ac fel y byddo amser fy ymadawiad yn pwyso nes-nes attaf: felly canniattâ o Dduw i'm henaid dynnu nesnes atrat ti: Ac fel y gallwyf yn llawen orchymmyn fy enaid i'th ddwylaw,1 megis i ddwylaw Tàd anwyl, ac Iachawdwr trugarog: a'r pryd hwnnw, O Arglwydd grasusol derbyn fy yspryd. fel y gallwyf wneuthur hyn oll, cynnorrhwya fi a'th râd: a gád i'th Yspryd glân fod gyd â myfi ⟨p. 360⟩hyd y diwedd; ac yn y diwedd, er mwyn Jesu Grist dy Fab, fy Arglwydd am unig Iachawdwr. Yn enw yr hwn, yr wyf yn rhoi i ti dy ogoniant, ac yn erfyn yr holl bethau hyn ar dy law, yn y weddi yr hon a ddyscodd Crist ei hun i mi gan ddywedyd:
- 1Mat. 25.4. Dad. 19.7. Psal. 12.10, 11. Luc. 16.22. Mat. 8.11. Luc. 13.18. Act. 7.59.