Y Mae in dy ryddhau di oddiwrth gorph llygredig, yr hwn a ynnillwyd yngwynder y cnawd, ym mhoethineb chwant, affendid pechod, ac a aned mewn gwaed budreddi: carchar bywiol i'th enaid, offer fywiol i bechod, sachlen o dom drewllyd: ammhuredd ffroenau yr hwn, ei glustiau, ei ymgorau, a'i fannau eraill (wedi eu jawn hystyried) a ymddengys in fryntach ac in ffieiddiach na'r pwll ⟨p. 354⟩budraf, neu y gaudŷ aflanaf. In gymmaint a bod prennau a phlanigion in dwyn dail, blodau, a ffrwythau, a phêr aroglau; a chorph din heb ddwyn dim and llau, pryfed, pydredd, a sawyr drewllyd. Ei search sydd lygredig hollhawl, a holl fwriad meddylfryd ei gallon sydd in unic in ddrygionus bob amser. Gen. 6.5. O hyn y digwydd na chaiff yr annuwiol sith ei ddigoni ag annuwioldeb, na'r afiaethus â thrythyllwch, na'r balch â mawredd, na'r dichlyn â rhodres, nar maleisys â dial, nar putteiniwr ag aflendid, nar cybydd ag elw, nar meddwyn ag yfed. Arferau a gwyniau newyddion ydynt beunydd in cynnyddu: ofnau newyddion a gofidiau ydynt in cyfodi beunydd. Yma y mae digofaint in gorwedd mewn cynllwyn; accw y mae gwag-ogoniant in ddrwg wrthynt: yma y mae balchder in cyfodi, accw y mae gwradwydd in bwrw i lawr; a phob un in gwilio pan a gaiff ymgodi wrth gwymp y llall. In awry brethir din in ddirgel gan hystingwyr ac enllibwyr, fell seirph tanllyd: in y man y mae ef mewn perigl o gael ei ddifa in yr amlwg gan ei elynion, o faith llewod Daniel. A din duwiol ym mha le bynnac y byddo fyw a gaiff ei orthrymmu in oestad, mal Lot gan aflendid Sodom.
Y Mae yn dy ryddhau di oddiwrth gorph llygredig, yr hwn a ynnillwyd yngwynder y cnawd, ym mhoethineb chwant, affendid pechod, ac a aned mewn gwaed budreddi: carchar bywiol i'th enaid, offer fywiol i bechod, sachlen o dom drewllyd: ammhuredd ffroenau yr hwn, ei glustiau, ei ymgorau, a'i fannau eraill (wedi eu iawn hystyried) a ymddengys yn fryntach ac yn ffieiddiach na'r pwll ⟨p. 354⟩budraf, neu y gaudŷ aflanaf. Yn gymmaint a bod prennau a phlanigion yn dwyn dail, blodau, a ffrwythau, a phêr aroglau; a chorph dyn heb ddwyn dim ond llau, pryfed, pydredd, a sawyr drewllyd. Ei serch sydd lygredig hollhawl, a holl fwriad meddylfryd ei galon sydd yn vnic yn ddrygionus bob amser. Gen. 6.5. O hyn y digwydd na chaiff yr annuwiol fyth ei ddigoni ag annuwioldeb, na'r afiaethus â thrythyllwch, na'r balch â mawredd, na'r dichlyn â rhodres, nar maleisys â dial, nar putteiniwr ag aflendid, nar cybydd ag elw, nar meddwyn ag yfed. Arferau a gwyniau newyddion ydynt beunydd yn cynnyddu: ofnau newyddion a gofidiau ydynt yn cyfodi beunydd. Yma y mae digofaint yn gorwedd mewn cynllwyn; accw y mae gwag-ogoniant yn ddrwg wrthynt: yma y mae balchder yn cyfodi, accw y mae gwradwydd yn bwrw i lawr; a phob vn yn gwilio pa vn a gaiff ymgodi wrth gwymp y llall. Yn awr y brethir dyn yn ddirgel gan hystingwyr ac enllibwyr, fel seirph tanllyd: yn y man y mae ef mewn perigl o gael ei ddifa yn yr amlwg gan ei elynion, o fath llewod Daniel. A dyn duwiol ym mha le bynnac y byddo fyw a gaiff ei orthrymmu yn oestad, mal Lot gan aflendid Sodom.