Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
pp. 1–446936 passagespart 14 of 24
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Diau y cuchiei yr holl greaduriaid arnynt: yr haul a fyddei anfodlon i lewyrchu, ar llevad i roddi goleuni iddynt. Y sêr a ymguddient rhagddynt, ac nid ymddangosai y planedau iddynt. Y bwystfilod a'u difethent, ar ehediaid a dynnent eu llygaid: Y pŷsc a ryfelent iw herbyn, a'r holl greaduriaid in y Nefoedd, ac ar y ddaiar a gyfodent in arfogion ⟨p. 246⟩iw gwrthwynebu. Je yr Arglwydd ei hûn o'r Nefoedd â lawiei dân, a brwmstan arnynt.
Theol. Diau y cuchiei yr holl greaduriaid arnynt: yr haul a fyddei anfodlon i lewyrchu, ar lleuad i roddi goleuni iddynt. Y sêr a ymguddient rhagddynt, ac nid ymddangosai y planedau iddynt. Y bwystfilod a'u difethent, ar ehediaid a dynnent eu llygaid: Y pŷsc a ryfelent iw herbyn, a'r holl greaduriaid yn y Nefoedd, ac ar y ddaiar a gyfodent yn arfogion ⟨p. 246⟩iw gwrthwynebu. Ie yr Arglwydd ei hûn o'r Nefoedd â lawiei dân, a brwmstan arnynt.
Phila. Etto er hyn i gyd, peth rhyfedd yw ystyried pa ddygn gâs sydd gan y drygionus i'r cyfiawn; a pha fodd y maent ym mhôb peth in ymosod in eu herbyn; a hynny in llidiog tros ben, ac in atcas. Ymgeinio, ac enllibio a wnânt; eu gwawdio, a'u gwatwor, eu diystyru, a'u mingammu megis pe na baent deilwng i fyw ar y ddaiar. Hwy a wnânt fwy cyfrif o bob coegwr diflas, ac a gymmerant bob gwael diffeithwas o'u blaen hwynt. Ac er eu bod in cael eu bywyd, a'u rhydddid, eu hanadl, a'u diogelwch a pheth bynnac arall a feddant, drwyddynt hwy: etto er hyn i gyd, hwy a glywent arnynt eu bwytta in fyw; mor gynnwynol, mor danllyd, mor frŵd, ac mor burboeth yw eu cynddaredd, a'u drwg-fwriad i'w herbyn.
Phila. Etto er hyn i gyd, peth rhyfedd yw ystyried pa ddygn gâs sydd gan y drygionus i'r cyfiawn; a pha fodd y maent ym mhôb peth yn ymosod yn eu herbyn; a hynny yn llidiog tros ben, ac yn atcas. Ymgeinio, ac enllibio a wnânt; eu gwawdio, a'u gwatwor, eu diystyru, a'u mingammu megis pe na baent deilwng i fyw ar y ddaiar. Hwy a wnânt fwy cyfrif o bob coegwr diflas, ac a gymmerant bob gwael diffeithwas o'u blaen hwynt. Ac er eu bod yn cael eu bywyd, a'u rhydddid, eu hanadl, a'u diogelwch a pheth bynnac arall a feddant, drwyddynt hwy: etto er hyn i gyd, hwy a glywent arnynt eu bwytta yn fyw; mor gynnwynol, mor danllyd, mor frŵd, ac mor burboeth yw eu cynddaredd, a'u drwg-fwriad i'w herbyn.