Commentary
pp. 110–1123 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Efo all rhai dybiaid fod yr arch hon in ddi-raid ac in ormod; canys paham y bid raid i'r nêb a gaffe faddevant o'i bechodau ofalu ynghylch, neu ofni profedigaethau? eithr nis dyscodd ein achubwr heb achos da a rheswm arbennig ninny i weddio fell hyn. I. Oblegit fod maddevant pechodau a phrofedigaethau erchyll megis cyfeillion, y rhai ni ellir eu didoli oddiwrth eu gilidd in y bywyd hwn: yr hyn yr ydy-mi in gweled ei fod in wir ing-air Duw, ac mewn praw gristnogaidd: canys nid oes neb in cael ei guro a'i gernodio gan brofedigaethau in y bid hwn, mal y mae 'r pechadur edifeiriol, yr hwn sydd in crio in dôst am faddevant o'i bechodau. Nid oes and ychydig-jawn o bobl in y bid in gydnabyddus â'r cyflwr hwn: canys y mae llaweroedd heb gael eu blino gan brofedigaetheu, and y maent hwy in byw mewn mawr lonyddwch a heddwch am gorph ac enaid. Luc. 11.21. ⟨p. 111⟩Pan fyddo un cryf arfog in cadw ei nevadd, y mae'r hyn oll sydd gantho mewn heddwch: ym mha eiriau yr arwyddocaer, nad ydyw annuwolion y bid hwn, in y rhai y mae Satan in Arglwyddiaethu, in cael moi blino in fawr gantho â phrofedigaethau: ac nid rhaid iddo mo hynny gan eu bod nhwy eusoes tan ei law ef, ac wrth ei orchymmyn, i wneuthyr ei ewyllys a'r peth a fynno efe. Eithr pan ddechrevo din unwaith wneuthur cydwybod am bechod, ac ymosod ei hunan i geisio gan yr Arglwydd faddevant am eu dramgwyddiadau a'i holl feieu, a pharhau ohono hefyd mewn casineb at bechod a Satan, yna y mae 'r gelyn in rymmys in ymdrechu; ac in ystic-jawn in profi pob mod i geisio gwradwyddo'r din hwnnw: ac y mae fe in taro arno ag amryw brofedigaethau i geisio ei orthrymmu ef, ac nid yw in rhoi i'r pechadur truan hwnnw ddim llonydd un amser. Ac am hynny, rhaid iddo efe rhag ofn cael ei orchfygu, weddio a galw ar yr Arglwydd in wastadol, rhag ei arwain i brofedigaeth.
EFo alle rhai dybiaid fod yr arch hon yn ddi-raid ac yn ormod; canys paham y bydde raid i'r nêb a gaffe faddeuant o'i bechodau ofalu ynghylch, neu ofni profedigaethau? eithr nis dyscodd ein achubwr heb achos da a rheswm arbennig nyni i weddio fel hyn. I. Oblegit fod maddeuant pechodau a phrofedigaethau erchyll megis cyfeillion, y rhai ni ellir eu didoli oddiwrth eu gilidd yn y bywyd hwn: yr hyn yr ydy-mi yn gweled ei fod yn wir yng-air Duw, ac mewn praw gristnogaidd: canys nid oes neb yn cael ei guro a'i gernodio gan brofedigaethau yn y byd hwn, mal y mae 'r pechadur edifeiriol, yr hwn sydd yn crio yn dôst am faddeuant o'i bechodau. Nid oes ond ychydig-iawn o bobl yn y byd yn gydnabyddus â'r cyflwr hwn: canys y mae llaweroedd heb gael eu blino gan brofedigaetheu, ond y maent hwy yn byw mewn mawr lonyddwch a heddwch am gorph ac enaid.