pp. 133–1346 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nyni a draethasom hid in hyn am weddio ar Dduw, a'r mod i wneuthyr ein gweddiau iddo ef: ninny weithian a gofiwn ar air neu ddau, pa fodd y mae Duw in clywed ac in gwrando ar ein gweddiau.
NYni a draethasom hyd yn hyn am weddio ar Dduw, a'r modd i wneuthyr ein gweddiau iddo ef: nyni weithian a gofiwn ar air neu ddau, pa fodd y mae Duw yn clywed ac yn gwrando ar ein gweddiau.
Holy. Pa sawl ford y mae Duw in clywed ac in gwrando ar weddiau dynion? Atteb. Dwy ford. 1. Y ford gyntaf yw, in ei drugaredd, pan fo in canniattau gofynion ac archau y rhai sydd in galw arno, ac in ofni ei enw sanctaidd ef. 2. Yr ail ford, y mae efe in ei ddigofaint a'i lid in clywed ac in gwrando ar weddiau dynion. Mal hyn y rhoddes efe sofl-jeir i blant yr Israel in ôl ei hewyllys a'i deisyfiad, Psal. 78.29.30.31. Fell hyn y mae dynion in eu rhegu ac in eu melltigo eu hunain lawyer gwaith, je ac in dymyno eu bod wedi eu crogi, neu claddu, ac in dywedyd Diawl y fenaid, a'r diawl am cotto, ac in ôl eu dymyniad in cael eu gofyn.
Holi. Pa sawl ffordd y mae Duw yn clywed ac yn gwrando ar weddiau dynion? Atteb. Dwy ffordd. 1. Y ffordd gyntaf yw, yn ei drugaredd, pan fo yn canniattau gofynion ac archau y rhai sydd yn galw arno, ac yn ofni ei enw sanctaidd ef. 2. Yr ail ffordd, y mae efe yn ei ddigofaint a'i lid yn clywed ac yn gwrando ar weddiau dynion. Mal hyn y rhoddes efe sofl-ieir i blant yr Israel yn ôl ei hewyllys a'i deisyfiad, Psal. 78.29.30.31. Fel hyn y mae dynion yn eu rhegu ac yn eu melltigo eu hunain lawer gwaith, ie ac yn dymyno eu bod wedi eu crogi, neu claddu, ac yn dywedyd Diawl y fenaid, a'r diawl am cotto, ac yn ôl eu dymyniad yn cael eu gofyn.
Holy. Paham y mae Duw in cedi gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. 1. iw profi wrth oedi'r amser. 2. i gadw ei ffydd nhwy ar waith. 3. i wneuthyr iddynt hwy gyfadde may rhoddion Duw, ac nad donniau o'r eiddynt eu hunain yw'r pethau y maent hwy in eu dderbyn. 4. Rhag cymmeryd in yscafn ddonniau a grasyssau Duw o'i cael in ⟨p. 134⟩fuan. 5. Fell y gelid dodi awch a chwanegu chwant a newyn am râs.
Holi. Paham y mae Duw yn cedi gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. 1. iw profi wrth oedi'r amser. 2. i gadw ei ffydd nhwy ar waith. 3. i wneuthyr iddynt hwy gyfadde mai rhoddion Duw, ac nad donniau o'r eiddynt eu hunain yw'r pethau y maent hwy yn eu dderbyn. 4. Rhag cymmeryd yn yscafn ddonniau a grasyssau Duw o'i cael yn ⟨p. 134⟩fuan. 5. Fel y gellid dodi awch a chwanegu chwant a newyn am râs.
Holy. 3. Pa wed y mae Duw in gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. Y mae efe mewn dau fodd in gwrando arnynt hwy. In gyntaf, wrth ganniattau iddynt hwy y peth a ofynnasont in òl ei ewyllys ef: A'r ail mod yw, trwy nâgcau iddynt y peth a ofynnasont, a rhoddi iddynt ryw beth arall o'r un bwys attebol i hwnnw. Mal hyn y mae Duw in nâgcau rhoddi donniau bydol dross amser byrr, ac in rhoddi in eu lle ddonniau tragywyddol in y nefoedd. Fell hyn y y mae Duw in gwrthod tynnu'r gross oddiar ysgwyddau ei wasanaethwyr, ac in rhoddi iddynt hwy in lle hynny nerth ac amyned iw dwyn hi. Gweddiodd Christ am dynnu'r cwppan oddiwrtho: Ni thynnwyd dim ohoni hi, etto fo a'i gwnaethpwyd ef in ei ddyndod in alluog i ddwyn a dioddef baych a phwys digofaint Duw. Pan weddiodd Paul dair gwaith am symmud y swmbwl a ydoedd in ei gwnawd, efe a gafodd hyn o atteb. y mae, fy ngrâs in ddigon i ti.
Holi. 3. Pa wedd y mae Duw yn gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. Y mae efe mewn dau fodd yn gwrando arnynt hwy. Yn gyntaf, wrth ganniattau iddynt hwy y peth a ofynnasont yn òl ei ewyllys ef: A'r ail modd yw, trwy nâgcau iddynt y peth a ofynnasont, a rhoddi iddynt ryw beth arall o'r vn bwys attebol i hwnnw. Mal hyn y mae Duw yn nâgcau rhoddi donniau bydol dros amser byrr, ac yn rhoddi yn eu lle ddonniau tragywyddol yn y nefoedd. Fel hyn y y mae Duw yn gwrthod tynnu'r groes oddiar ysgwyddau ei wasanaethwyr, ac yn rhoddi iddynt hwy yn lle hynny nerth ac amyned iw dwyn hi. Gweddiodd Crist am dynnu'r cwppan oddiwrtho: Ni thynnwyd dim ohoni hi, etto fo a'i gwnaethpwyd ef yn ei ddyndod yn alluog i ddwyn a dioddef baych a phwys digofaint Duw. Pan weddiodd Paul dair gwaith am symmud y swmbwl a ydoedd yn ei gwnawd, efe a gafodd hyn o atteb. y mae, fy ngrâs yn ddigon i ti.
Terfyn.