Amryw reolau duwiol, perthynasol i bôb Cristion iw harfer.
pp. 14220 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Amryw reolau duwiol, perthynasol i bôb Cristion iw harfer.
Pan ddeffroech di gyntaf in dy wely, bid siccr i feddwl am yr Arglwydd, a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth borevol o ddiolchgarwch am ei ddaioni i'ti y nôs aeth heibio: a gâd i hyn gael ei gyflawni cyn i'ti feddwl am ddim arall, rhag drwy hynny ith enaid gael ei † lychwino â phechod: Gwêl gan hynny ar i'ti ystyried a gwneuthur hyn. Canys y rhai am anrhydeddant i, a anrhydeddaf sin medd yr Arglwydd. † Ddiwyno Psal. 50.23. 1 Sam. 2.30.
PAn ddeffroech di gyntaf yn dy wely, bydd siccr i feddwl am yr Arglwydd, a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth boreuol o ddiolchgarwch am ei ddaioni i'ti y nôs aeth heibio: a gâd i hyn gael ei gyflawni cyn i'ti feddwl am ddim arall, rhag drwy hynny ith enaid gael ei † lychwino â phechod: Gwêl gan hynny ar i'ti ystyried a gwneuthur hyn. Canys y rhai am anrhydeddant i, a anrhydeddaf finne medd yr Arglwydd. † Ddiwyno Psal. 50.23. 1 Sam. 2.30.
2. Pan gyfodech di gyntaf, nac oeda alw dy dylwyth ynghyd, i roddi diolch ir Arglwydd am ei drugaredd in gyffredin, ac in neillduol i ti ac ir eiddot. A gwêl na wnelych mo hynny in llygoer, in draddodiadol, ac in unig o ran arfer: and gwna ef mewn cydwybod a gwîr gariad i Dduw, gan alaru o'th gallon, nad ellit ti gyflawni dy ddyled-swyddau in fwy ysprydol a nefol, gan gyfaddef dy bechodau, ac in ostyngedig ymbil am faddevant amdanynt. Ac ar ôl hynny, mae in gymmwys i'ti ymbil am y cyfryw bethau, ac sydd arnat ti eisiau ith enaid neu ith gorph; a chan geisio bendith ar waith y diwrnod sydd in canlyn, gwêl i'ti gyfodi i fynu