Ystyria ddarllenydd, onid yw ysprydol wirioneddau in deilwng 'oath ddewisaf foliant: Pob gwirionedd sanctaidd, un o dragywyddol feddyliau Duw ydiw, ai anedigaeth or nêf, ac in dwyn delw y goruchaf arno. Gwirionedd ydiw gogoniant yr holl Drindod sanctaidd: o herwydd hynny y gelwir yr yspryd, in wirionedd, 1 Joan 5.6. Christ a elwir y Gwirionedd, Foa. 14.6. A hefyd Duw ei hûn a ddywedir i fôd in Dduw y Gwirionedd, Deut. 32.4. Mae efe mor hyfryd gantho ef, a bod ei lygaid ef arno in wastadol, Fer. 5.1. A phan fynnei yr unig doeth Dduw i ddynion wneuthur ⟨image 12⟩pwrcas neu farchnad, mae efe in ei cynghori hwynt i brynnu 'r Gwirionedd. Diha. 23.23. Ac onid yw efe in gyngor da? Onid yw hi in farchnad dda? A fedrwch chwi roddi eich arian allan in well? Os byddwch chwi in feirw mewn camweddau a phechodau, Gwirionedd ydyw yr hâd o fywyd newydd, o anedigaeth nefôl, Iago 1.18. Os byddwch chwi in feirw mewn caethiwed, Gwirionedd a all eich rhyddhau chwi, Joan 8.32. Os wedi eich amgylchu y byddwch chwi a gelynion. Gwirionedd all fôd in darian i'chwi, Psa. 91.4. Os byddwch chwi in lawn o feddyliau, neu chwantau aflan, neu o amhureddau eraill in y bŷd, Gwirionedd all eich sancteiddio chwi, Joan 17.17. Os tywyllwch a gwendid y fydd in meddiannu eich eneidiau, gwirionedd yw llewyrch a lluniaeth yr enaid, Psa. 119.105. Gadewch i'ni gan hynny dderchafu ein meddyliau am y gwirionedd, ai brisio uwch law yr holl bethau daiarol, ⟨image 12⟩ai brynnu er iddo gostio i'ni r cwbl: (Nid yw hyn Simoniaeth neu brynnu pethau ysprydol am arian) nyd yw ry-ddrud, ac ni ellwch chwi brisio gormod ar y gwirionedd. Mae in chwaer i dangnheddyf Dduw yr hon sydd uwch law pôb deal: Gwelwch pa fawr gyfrif y mae Duw ei hun in ei wneuthur ar ei air ai wirionedd, Psa. 138.2. Ti a fawrheiaist dy air uwch law dy enw ôll. Pa fodd bynnag yr adweinir Duw heb law ei air mae hynny in îs nay air ef. Cymmerwch yr hôll greadigaeth, yr hyn yw enw Duw in y llythyrennau mwyaf, nid ydiw ddim wrth ei air ai wirionedd. Am hynny y dywedodd Christ ir Pharisaeaid, mae haws oedd ir nêf ar ddaiar fined heibio, nac i un tippin or gyfraith ballu.
Ystyria ddarllenydd, onid yw ysprydol wirioneddau yn deilwng 'oth ddewisaf foliant: Pob gwirionedd sanctaidd, un o dragywyddol feddyliau Duw ydiw, ai anedigaeth or nêf, ac yn dwyn delw y goruchaf arno. Gwirionedd ydiw gogoniant yr holl Drindod sanctaidd: o herwydd hynny y gelwir yr yspryd, yn wirionedd, 1 Joan 5.6. Christ a elwir y Gwirionedd, Foa. 14.6. A hefyd Duw ei hûn a ddywedir i fôd yn Dduw y Gwirionedd, Deut. 32.4. Mae efe mor hyfryd gantho ef, a bod ei lygaid ef arno yn wastadol, Fer. 5.1. A phan fynnei yr unig ddoeth Dduw i ddynion wneuthur ⟨image 12⟩pwrcas neu farchnad, mae efe yn ei cynghori hwynt i brynnu 'r Gwirionedd. Diha. 23.23. Ac onid yw efe yn gyngor da? Onid yw hi yn farchnad dda? A fedrwch chwi roddi eich arian allan yn well? Os byddwch chwi yn feirw mewn camweddau a phechodau, Gwirionedd ydyw yr hâd o fywyd newydd, o anedigaeth nefôl, Iago 1.18. Os byddwch chwi yn feirw mewn caethiwed, Gwirionedd a all eich rhyddhau chwi, Ioan 8.32. Os wedi eich amgylchu y byddwch chwi a gelynion. Gwirionedd all fôd yn darian i'chwi, Psa. 91.4. Os byddwch chwi yn llawn o feddyliau, neu chwantau aflan, neu o amhureddau eraill yn y bŷd, Gwirionedd all eich sancteiddio chwi, Ioan 17.17. Os tywyllwch a gwendid y fydd yn meddiannu eich eneidiau, gwirionedd yw llewyrch a lluniaeth yr enaid, Psa. 119.105. Gadewch i'ni gan hynny dderchafu ein meddyliau am y gwirionedd, ai brisio uwch law yr holl bethau daiarol, ⟨image 12⟩ai brynnu er iddo gostio i'ni r cwbl: (Nid yw hyn Simoniaeth neu brynnu pethau ysprydol am arian) nyd yw ry-ddrud, ac ni ellwch chwi brisio gormod ar y gwirionedd. Mae yn chwaer i dangnheddyf Dduw yr hon sydd uwch law pôb deall: Gwelwch pa fawr gyfrif y mae Duw ei hun yn ei wneuthur ar ei air ai wirionedd, Psa. 138.2. Ti a fawrheiaist dy air vwch law dy enw ôll. Pa fodd bynnag yr adweinir Duw heb law ei air mae hynny yn îs nai air ef. Cymmerwch yr hôll greadigaeth, yr hyn yw enw Duw yn y llythyrennau mwyaf, nid ydiw ddim wrth ei air ai wirionedd. Am hynny y dywedodd Christ ir Pharisaeaid, mae haws oedd ir nêf ar ddaiar fyned heibio, nac i un tippin or gyfraith ballu.