A20213:118
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Je in wir, dirgelwch y dirgelion ydyw, y cyfryw ac nas gall doethion y bid hwn ei gyrhaeddyd, ai ddirnad.
Theol. Ie yn wir, dirgelwch y dirgelion ydyw, y cyfryw ac nas gall doethion y byd hwn ei gyrhaeddyd, ai ddirnad.
Phila. Rhai a dybiant fod mwyneidd-dra, tiriondeb, medrusrwydd, naturioldeb, a chyweithasrwydd in adenedigaeth: ac nad rhaidammeu na bid dynion boneddigaidd, a llednais in gadwedig.
Phila. Rhai a dybiant fod mwyneidd-dra, tiriondeb, medrusrwydd, naturioldeb, a chyweithasrwydd yn adenedigaeth: ac nad rhaidammeu na bydd dynion boneddigaidd, a llednais yn gadwedig.
Theol. Y sawl a dybiant hynny a gamdybiant. Oblegid nid yw angenrhaid in gofyn body rhinweddau hyn in ddiball in y rhai a fyddant cadwedig, eithr hwy a geir in fynych mewn dynion llwyr afreol-gar ac anghrefyddol. Er hynny ein rhan ni yw mawrhau y cyfryw geneddfau rhinweddol ar sawl y ceffir hwynt ynddynt.
Theol. Y sawl a dybiant hynny a gamdybiant. Oblegid nid yw angenrhaid yn gofyn bod y rhinweddau hyn yn ddiball yn y rhai a fyddant cadwedig, eithr hwy a geir yn fynych mewn dynion llwyr afreol-gar ac anghrefyddol. Er hynny ein rhan ni yw mawrhau y cyfryw geneddfau rhinweddol ar sawl y ceffir hwynt ynddynt.