Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
pp. 1–361939 passagespart 3 of 24
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Diau fod yr athrawiaeth hon ynghylch yr adenedigaeth in ddirgelwch mawr tros ben.
Phila. Diau fod yr athrawiaeth hon ynghylch yr adenedigaeth yn ddirgelwch mawr tros ben.
Theol. Je in wir, dirgelwch y dirgelion ydyw, y cyfryw ac nas gall doethion y bid hwn ei gyrhaeddyd, ai ddirnad.
Theol. Ie yn wir, dirgelwch y dirgelion ydyw, y cyfryw ac nas gall doethion y byd hwn ei gyrhaeddyd, ai ddirnad.
Phila. Rhai a dybiant fod mwyneidd-dra, tiriondeb, medrusrwydd, naturioldeb, a chyweithasrwydd in adenedigaeth: ac nad rhaidammeu na bid dynion boneddigaidd, a llednais in gadwedig.
Phila. Rhai a dybiant fod mwyneidd-dra, tiriondeb, medrusrwydd, naturioldeb, a chyweithasrwydd yn adenedigaeth: ac nad rhaidammeu na bydd dynion boneddigaidd, a llednais yn gadwedig.
Theol. Y sawl a dybiant hynny a gamdybiant. Oblegid nid yw angenrhaid in gofyn body rhinweddau hyn in ddiball in y rhai a fyddant cadwedig, eithr hwy a geir in fynych mewn dynion llwyr afreol-gar ac anghrefyddol. Er hynny ein rhan ni yw mawrhau y cyfryw geneddfau rhinweddol ar sawl y ceffir hwynt ynddynt.
Theol. Y sawl a dybiant hynny a gamdybiant. Oblegid nid yw angenrhaid yn gofyn bod y rhinweddau hyn yn ddiball yn y rhai a fyddant cadwedig, eithr hwy a geir yn fynych mewn dynion llwyr afreol-gar ac anghrefyddol. Er hynny ein rhan ni yw mawrhau y cyfryw geneddfau rhinweddol ar sawl y ceffir hwynt ynddynt.